Llosgnodi
Cefais freuddwyd ofnadwy. Nid wyf yn rhyfeddu cymaint am y freuddwyd ei hun, ond rwyf yn rhyfeddu sut y gallais ddod o hyd i’r dewrder i freuddwydio am bethau ofnadwy, pan yr wyf yn ddinesydd parchus fy hun, plentyn ufudd ein mam Serbia annwyl, fel pob un o’i phlant eraill. Wrth gwrs, fe wyddoch chi, os y buaswn yn eithriad mewn unrhyw beth, mi fuasai yn wahanol, ond, na, fy ffrind, rwy’n gwneud yrunion yr un fath a phawb arall, ac ynglŷn a bod yn ofalus hefo popeth, does neb yn gallu cyd-fynd â mi yn hynny. Mi welais unwaith, botwm sgleiniog o lifrai heddwas yn gorwedd yn y stryd, fe synnais ar ei lewyrch hudolus, a bron i mi basio heibio, yn llawn atgofion melys, pan yn sydyn, dechreuodd fy llaw grynu a neidio i saliwt, fy mhen wedi ymgrymu ar ei ben ei hun tuag at y ddaear, a fy ngheg yn lledaenu i’r wen hyfryd yr ydym i gyd yn ei wisgo pan yn cyfarch ein uwch swyddogion.
– Mae gwaed bonheddig yn llifo yn fy ngwythiennau – dyna beth sydd! – Dyma beth meddyliais y foment honno, edrychais yn ddirmygus ar y bwystfil yn pasio ac yn sefyll yn ddi-os ar y botwm.
– Am fwystfil! – dywedais yn chwerw, gan boeri, ac yna cerddais ymlaen yn ddistaw, wedi’m cysuro gan y syniad fod y fath anghenfil yn brin; roeddwn yn falch yn enwedig fod Duw wedi rhoddi i mi galon coeth a’r gwaed bonheddig a llawn sifalri ein cyndeidiau.
Wel, nawr rydych yn gallu gweld fy mod yn ddyn ardderchog, dim yn wahanol o gwbl i ddinasyddion parchus eraill, a mi fyddech yn rhyfeddu, mae’n siwr, sut y gallodd y fath bethau ofnadwy a gwirion ddigwydd yn fy mreuddwydion.
Ni ddigwyddodd unrhywbeth anarferol i mi y diwrnod hwnnw. Cefais ginio da a wedyn eisteddais yn pigo fy nannedd yn hamddenol, yn sipian fy ngwin, ac yna, wedi imi ddefnyddio fy hawliau dinesyddol dewr a chydwybodol, fe es i ngwely, a mynd a llyfr gyda mi er mwyn cysgu yn gynt.
Ar ôl prin amser, disgynnodd y llyfr o fy llaw, wedi i mi, wrth gwrs, leddfu fy chwant, fy holl ddyletswyddau wedi eu cwblhau, syrthiais i gysgu mor ddiniwed ag oen bach.
Yn sydyn, ffeindiais fy hun ar ffordd gul, fwdlyd yn arwain trwy’r mynyddoedd. Noson oer, dywyll.
Y gwynt yn rhuo drwy’r canghennau diffrwyth ac yn torri fel rasal pryd bynnag y cyffyrddai croen noeth. Yr awyr yn ddu, di-deimlad a bygythiol, ac eira fel llwch, yn chwythu i’ch llygaid ac yn taro yn erbyn eich wyneb. Dim enaid byw yn unman. Rwy’n brysio ymlaen ac yn llithro ar y ffordd fwdlyd bob hyn a hyn i’r chwith, i’r dde. Rwy’n simsanu, yn syrthio ac yn colli fy ffordd o’r diwedd, rwy’n crwydro ymlaen – Duw a ŵyr i ble – nid yw’n noson byr, arferol, ond mor hir a chanrif, a rwyf yn parhau i gerdded ar hyd y beit heb wybod i ble.
Felly cerddais ymlaen am flynyddoedd maith a chyrraedd rhywle ymhell bell i ffwrdd o fy ngwlad brodorol, i wlad estron nad oes neb yn gwybod amdano, ac rwyf yn siwr, y gellir ei weld mewn breuddwydion yn unig.
Tra’n crwydro o gwmpas y wlad fe ddois i dref fawr lle roedd llawer o bobl yn byw. Yn y farchnad fawr roedd torf enfawr, a sŵn ofnadwy yn mynd ymlaen, digon i fyrstio drwm eich clust. Arhosais mewn tafarn yn wynebu’r lle farchnad a gofynnais i’r lletywr pam fod gymaint o bobl wedi ymgynnull yno…
– Rydym yn bobl distaw a pharchus – cychwynodd ei stori- rydym yn ffyddlon ac yn ufuddi’r Maer.
– Ai eich awdurdod goruchaf yw’r Maer? – gofynnais, gan dorri ar ei draws.
– Y Maer sy’n rheoli fan hyn, a fo yw ein awdurdod goruchaf; yr heddlu sydd nesaf.
Chwerthais.
– Pam yr wyt yn chwerthin?… Ni wyddost ti?… O ble yr wyt yn dod?…
Dywedais fy mod wedi colli fy ffordd, ac yr wyf yn dod o wlad bell – Serbia.
– Rwyf wedi clywed am y wlad enwog yna! – sibrydodd y lletywr wrth ei hun, yn edrych arna i yn llawn parch, a fe siaradodd yn uwch:
– Dyna yw ein ffordd ni, – ehangodd, – mae’r Maer yn rheoli hefo’i heddweision.
– Beth mae eich heddlu fel?
– Wel mae ‘na wahanol fathau o heddlu – maent yn amrywio yn ôl eu rheng. Y mae rhai mwy nodedig a rhai llai nodedig…. rydym ni, fel y gwyddoch, yn bobl distaw a pharchus, ond mae bob math o gardotwyr yn dod o’r gymdogaeth, maent yn ein llygru ac yn ein dysgu pethau drygionus. Er mwyn gwahaniaethu ni o bobl estron, rhoddodd y Maer orchymyn ddoe y dylai pob dinesydd fynd i’r llys leol, lle caiff bob un ohonom ein brandio ar y talcen. Dyna pam mae gymaint o bobl wedi hel at ei gilydd, er mwyn penderfynnu beth i’w wneud.
Crynais wrth feddwl y dyliwn i redeg i ffwrdd o’r wlad rhyfedd yma cyn gynted ag y gallwn i, achos doeddwn i, er fy mod yn Serb, ddim wedi arfer efo’r fath arddangosiad o sifalri, ac roeddwn yn teimlo’n eithaf anesmwyth ynglyn a’r peth.
Chwerthodd y lletywr yn llesiannol, a tapio fi ar fy ysgwydd, gan ddweud gyda balchder:
– A, dieithryn, ydi hyn yn ddigon i dy ddychryn di? Dwi’n synnu dim, mae’n rhaid mynd yn bell i ddarganfod dewrder fel ein dewrder ni!
– Beth yr ydych am ei wneud? – gofynnais yn ofnus.
– Am gwestiwn! Fe welwch chi pa mor ddewr yr ydym ni. Fydd yn rhaid i chi drafeilio yn bell iawn i weld dewrder fel ein dewrder ni, rwy’n dweud. Rwyt ti wedi trafeilio yn eang ac wedi gweld y byd, ond rwy’n siwr nad wyt ti wedi gweld arwyr gwell na ni. Awn ni hefo’n gilydd. Mae’n rhaid i mi frysio.
Roeddem ni ar fin gadael pan glywsom chwip yn cracio o flaen y drws.
Sbeciais allan, ac am olwg oedd i’w weld yno, roedd dyn mewn cap trichornel sgleiniog, wedi ei wisgo mewn siwt lachar, yn marchog ar gefn dyn arall a oedd mewn dillad cyfoethog cyffredin. Wnaethant stopio o flaen y dafarn a dymchwelodd y marchog.
Aeth y lletywr allan, yn ymgrymu yn isel, yna aeth y dyn yn y siwt lachar i fewn i’r dafarn i fwrdd a oedd wedi ei addurno yn arbennig. Arhosodd y dyn yn y dillad bob dydd tu allan i’r dafarn. Ymgrymodd y lletywr yn isel iddo ef hefyd.
– Beth yw pwrpas hyn i gyd? – gofynnais i’r lletywr, wedi drysu’n llwyr.
– Wel, mae’r un a aeth i fewn i’r dafarn yn heddwas uchel ei rheng, a mae’r llall yn un o’n dinasyddion mwya nodedig, dyn cyfoethog iawn, gwladgarwr o fri, – sibrydodd y lletywr.
– Ond pam y mae’n gadael i’r dyn arall farchog ar ei gefn?
Ysgwydodd y lletywr ei ben ata i wrth i ni gamu i’r ochr. Rhoddodd wen dirmygus i mi a dywedodd:
– Rydym yn meddwl amdano fel anrhydedd mawr sydd yn anaml yn haeddiannol! – Dywedodd nifer fawr o bethau eraill hefyd, ond roeddwn wedi cynhyrfu gymaint fel ni allwn ddeall beth y dywedodd. Ond fe glywais yn glir beth ddywedodd yn y diwedd – Mae’n wasanaeth i’ch gwlad nad ydyw pob gwlad eto wedi dysgu i werthfawrogi!
Daethom at y cyfarfod, roedd etholiad y cadeirydd eisioes wedi cychwyn.
Cynigwyd dyn o’r enw Kolb gan y grŵp cyntaf, os rwy’n cofio ei enw yn iawn, fel ei ymgeisydd cadeiryddol; roedd yr ail grŵp eisiau Talb, a roedd gan y drydedd grŵp ei hymgeisydd ei hunain.
Roedd dryswch dychrynllyd; pob grŵp eisiau gwthio ei dyn eu hunain.
– Ni chredaf fod dyn gwell na Kolb i fod yn gadeirydd cyfarfod mor bwysig- dywedodd llais o’r grŵp gyntaf – achos rydym i gyd yn ymwybodol o’i rinweddau fel dinesydd a’i ddewrder enfawr. Nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn gallu brolio ei bod wedi cael ei farchog gymaint gan bobl hynod o bwysig…
– Pwy ydych chi i siarad fel hyn? – gwaeddodd rhywun o’r ail grŵp. – Dwyt ti erioed wedi cael dy farchog gan glerc iau yr heddlu!
– Rydym yn gwybod dy rinweddau, – criodd rhywun o’r drydedd grŵp – ni allet ti fyth ddioddef dim trawiad o’r chwip heb floeddio!
– Gawn ni un peth yn glir, frodyr! – cychwynodd Kolb – Mae’n wir fod boneddigion yn fy marchog i mwy na deg mlynedd yn ôl, gwanaethant fy chwipio a ni chriais fyth, ond efallai fod rhywun mwy teilwng yn ein plith. Efallai fod rhai ieuengach yn well.
– Na, na, – criodd ei gefnogwyr.
– ‘Dan ni ddim eisiau clywed am anrhydeddau y gorffennol! Mae’n ddeg mlynedd ers i Kolb gael ei farchog, – gwaeddodd lleisiau o’r ail grŵp.
– Mae gwaed ifanc yn cymryd drosodd, gadewch i hen gŵn cnoi eu hesgyrn – galwodd rhai o’r drydedd grŵp.
Yn sydyn, nid oedd rhagor o dwrw; symudodd pobl yn ôl, i’r chwith ag i’r dde, i glirio llwybr ac mi welais ddyn tua tri deg oed. Fel y nesaodd, roedd pob pen wedi gostwng.
– Pwy yw hwn? – sibrydais i’r lletywr.
– Hwn yw’r arweinwr poblogaidd. Dyn ifanc ond yn addawol iawn. Yn ei ddyddiau cynnar gallai frolio ei fod wedi cario’r Maer ar ei gefn dair gwaith. Mae o’n fwy poblogaidd na neb arall.
– Efallai wnawn nhw ei ethol? – gofynnais
– Mae hynny yn fwy na thebyg, achos mae amser wedi mynd heibio i’r ymgeiswyr eraill i gyd, maent yn hŷn, lle mae’r Maer wedi marchog ar gefn hwn am sbel ddoe.
– Beth yw ei enw?
–Kleard.
Fe wnaethon nhw rhoi lle anrhydeddol iddo.
– Credaf, – torrodd llais Kolb drwy’r distawrwydd, – ni allem ddarganfod dyn gwell am y swydd na Kleard. Mae o’n ifanc, ond does neb ohonom ni sy’n hŷn yn gyfartal iddo.
– Clywch, clywch!… Bywyd hir i Kleard! – rhuodd y lleisiau i gyd.
Fe wnaeth Kolb a Talb mynd a fo i safle y cadeirydd. Ymgrymodd pawb yn isel, ac roedd distawrwydd perffaith.
– Diolch i chi, frodyr, am eich parch mawr a’r anrhydedd yma yr ydych wedi rhoddi i mi mor unfrydol. Mae eich gobeithion, sydd yn fy ngolwg nawr, yn rhy hael. Nid yw’n beth hawdd ilywio llong dymuniadau ein cenedl drwy ddyddiau mor bwysig, ond mi wnaf bopeth yn fy ngrym i gyfiawnhau eich ffydd, i gynrychioli eich barn yn onest, ac i haeddu eich meddwl uchel ohonaf. Diolch, fy mrodyr, am fy ethol.
– Hwre! Hwre! Hwre! – tarannodd y pleidleiswyr o bob ochr.
– A nawr, frodyr, gobeithiaf cael dweud ychydig o eiriau am yr achlysur bwysig yma. Nid yw yn hawdd i ddioddef y fath boenau, y fath poenydio sydd yn ein wynebu nawr; nid yw yn hawdd cael llosgnodi eich talcen hefo haearn boeth. Yn wir, na- ni ellir pob dyn ddioddef poenau tebyg. Gadewch i’r cachgwn grynu, gadewch iddynt wingo mewn ofn, ond ni ddyliem anghofio am eiliad mai meibion cyndeidiau dewr yr ydym ni, bod gwaed bonheddig yn llifo drwy ein gwythiennau, gwaed arwrol ein teidiau, marchogion gwych a bu farw heb godi blewyn, dros heddwch a budd pob un ohonom ni, eu hepil. Bychan yw ein dioddefaint, os yr ydym yn meddwl am eu dioddefaint hwy – ydym ni am fihafio fel aelodau hil diryw a llwfr, nawr, gan yr ydym yn byw gwell fywyd nag erioed? Mae pob gwladgarwr gwir, pawb sydd ddim eisiau cywilyddu ein cenedl o flaen y byd i gyd, am ddioddef y poen fel dyn a fel arwr.
– Clywch, clywch! Bywyd hir i Kleard!
Roedd nifer o siaradwyr brwdfrydig ar ôl Kleard, wnaethant annog y bobl ofnus ac ailadrodd yr hyn a ddywedodd Kleard, mwy neu lai.
Yna gofynnodd hen ddyn i gael siarad. Roedd o’n wan ac yn flinedig, a gwyneb llawn crychau, ei wallt a’i farf yn wyn fel eira. Crynodd ei bennau glin gan oed, ysgwydodd ei ddwylo, ei gefn wedi ei blygu. Crynodd ei lais, roedd ei lygaid yn llachar yn llawn dagrau.
– Plant, – cychwynodd, dagrau yn rowlio i lawr ei fochau gwyn, crychlyd ac yn syrthio ar ei farf wen – rwyf yn drist iawn a mi fyddaf yn marw yn ô fuan, ond nid wyf yn meddwl y ddyliech chi adael i’r fath gywilydd ddod drostoch chi. Rwy’n gant oed, a wedi byw trwy gydol fy mywyd heb hynny!… Pam ddyliai stamp caethiwed gael ei losgnodi ar fy mhen wen a blinedig nawr?…
– I lawr a’r hen walch! – bloeddiodd y cadeirydd.
– I lawr a fo! – gwaeddodd rhai eraill.
– Yr hen gachgi!
– Yn hytrach nag annog yr ifanc, mae’n codi ofn ar bawb!
– Mi ddyliai godi cywilydd arno am ei wallt gwyn! Mae o wedi byw digon hir, ac mi ellith dal fod yn ofnus – rydym ni, y rhai ifanc yn ddewrach…
– I lawr a’r cachgi!
– Taflwch ef allan!
– I lawr a fo!
Rhuthrodd torf o wladgarwyr ifanc, dewr at yr hen ddyn gan gychwyn ei wthio, ei dynnu a’igicio mewn cynddaredd.
Gadawsant iddo fynd o’r diwedd, gan ei fod yn hen – neu y buasent wedi ei ladd a cherrig ar ei union.
Gaddodd pob un i fod yn ddewr yfory ac i ddangos eu hunain yn deilwng o anrhydedd a gogoniant eu cenedl.
Gadawsant y cyfarfod yn drefnus iawn. Wrth iddynt fynd, dywedasant:
– Fe welwn yfory pwy ydi pwy!
– Wnawn ni sortio’r brolwyr yfory!
– Mae’n hen amser i’r rhai teilwng gael eu gwahaniaethu gan y rhai anheilwng, er mwyni bob gwalch beidio gallu brolio fod ganddo galon dewr!
Mi ddychwelais i’r dafarn.
– Ydych chi wedi gweld o beth yr ydym wedi ein gwneud? – gofynodd fy lletywr yn llawn balchder
– Yn wir, rwyf wedi, – atebais yn awtomatig, wrth i’m cryfder adael, fy mhen yn fwrlwm o argraffiadau rhyfedd.
Ar y diwrnod honno fe ddarllenais erthygl bwysig yn eu papur newydd a aeth fel hyn:
– Dinasyddion, mae’n amser i atal y brolio oferus a’r jarffio, mae’n amser i beidio rhoi pŵer i’r geiriau gwag yr ydym yn eu defnyddio gymaint bob dydd er mwyn arddangos ein rhinweddau dychmygol a theilwng. Mae’r amser wedi cyrraedd, dinasyddion, i ni brofi ein geiriau ac i ddangos pwy sydd wir yn ddilys a phwy sydd ddim! Ond credwn na fydd unrhyw cachgwn digywilydd yn ein mysg a fydd angen cael eu gorfodi i’r safle llosgnodi apwyntedig. Mi fydd pob un ohonom sydd yn teimlo diferyn o waed bonheddig ein cyndeidiau yn brwydro i fod yn un o’r rhai cyntaf i ddioddef y poen a’r dolur, yn ddewr ac yn ddistaw, gan mai poen sanctaidd yw hon, mae’n aberth er mwyn lles ein gwlad ac o fudd i ni gyd. Ymlaen, ddinasyddion, yfory yw diwrnod y prawf pendefigaidd!…
Y diwrnod honno, aeth fy lletywr i’w wely yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn cyrraedd y man priodol cyn gynted ag oedd bosib y diwrnod canlynol. Er hynny, roedd nifer wedi mynd yn syth i neuadd y dref er mwyn bod mor agos a oedd yn bosib i flaen y ciw.
Drannoeth, mi es innau hefyd i neuadd y dref. Roedd pawb yno – yr hen a’r ifanc, gwryw a benyw. Daeth rhai mamau a’u babannod bychain hefo nhw, iddynt gael eu llosgnodi hefo stamp caethiwed, hynny yw, o anrhydedd, a felly yn cael fwy o hawl i swyddau uchel yn y gwasanaeth sifil.
Roedd gwthio a rhegi (yn dangos eu bod yn eitha tebyg ini, y Serbiaid; ymfalchiais yn hyn, rhywsut) a roedd pawb yn ceisio bod y cyntaf i’r drws. Roedd rhai hyd yn oed yn gafael yng ngyddfau rhai eraill.
Llosgnodwyd y stamp gan was sifil arbennig mewn siwt wen ffurfiol, a oedd yn edliwio’r bobl yn ysgafn:
– Peidiwch a mwmial, yn enw Duw, fe ddaw tro pawb – nid anifeiliaid ydych chi, dwi’n amau y gallwn wneud heb wthio.
Dechreuodd y llosgnodi. Criodd un allan, bu un arall dim ond yn griddfan, ond ni all neb ei ddioddef heb wneud sŵn o gwbl tra yr oeddwn i yno.
Ni allaf wylio y fath arteithio am hir, felly fe es yn ôl i’r dafarn, ond roedd rhai ohonynt yno yn barod, yn bwyta ac yn yfed.
– Mae hynny drosodd! – dywedodd un ohonynt.
– Wel, wnaethon ni ddim sgrechian go iawn, ond roedd Talb yn brefu fel asyn… – dywedodd un arall.
– Weli di sut un yw dy Talb di, a roeddet ti eisiau ei gael o fel cadeirydd y cyfarfod ddoe.
– O, ‘dach chi byth yn gallu dweud!
Fe wnaethant siarad, gan duchan a gwingo mewn poen, ond gan geisio ei guddio gan ei gilydd, gan fod ganddynt gywiliydd o cael eu hystyried yn gachgwn.
Roedd Kleard yn warthus, gan y wnaeth gwynfannu, roedd dyn o’r enw Lear yn arwr gan iddo ofyn igael dau llosgnod boeth ar ei dalcen a heb wneud smic. Roedd y dref i gyd yn siarad amdano efo’r parch uchaf.
Rhedodd rhai pobl i ffwrdd, ond roedd pawb yn casau rheiny.
Wedi ychydig ddyddiau, cerddodd yr un efo’r dau llosgnod ar ei dalcen o gwmpas hefo’i ben yn uchel, ag urddas a hunan-barch, a lle bynnag yr aeth, ymgrymodd pawb a thipian eu hetiau i saliwtio arwr y dydd.
Rhedodd dynion, merched a phlant ar ei ôl yn y stryd i weld dyn gorau y wlad. Lle bynnag yr aeth, cafodd ei ddilyn gan sibrydion wedi eu hysbrydoli gan barchedig ofn: ‘Lear, Lear!… Dyna fo!… Dyna’r arwr wnaeth peidio gweiddi tra llosgnodwyd ef ar ei dalcen gan ddau stamp boeth!’ Roedd o ym mhenawdau’r papurau newydd, wedi ei foli a’i ogoneddu.
Yr oedd wedi haeddu cariad y bobl.
–
Dros bob man rwy’n gwrando ar y fath foliant, ac rwy’n dechrau teimlo’r hen waed Serbiaidd bonheddig yn rhedeg drwy fy ngwythiennau. Roedd ein hynafiaid yn arwyr, buont farw ar ystanciau dros ryddid; mae hefyd gennym ein gorffennol arwrol, hefyd ein Kosovo. Rwy’n gwefrio â balchder a gwagedd cenedlaethol, yn eiddgar i ddangos pa mor ddewr yw fy rhywogaeth ac i frysio i neuadd y dref i weiddi:
– Pam yr ydych yn moli eich Lear?… Ni welsoch chi fyth wir arwyr! Dewch i weld dros eich hunain beth mae gwaed bonheddig Serbiaidd fel! Llosgnodwch ddeg stamp ar fy mhen, nid dau yn unig!
Daeth y gwas sifil a’i stamp yn agos at fy nhalcen a fe neidiais… deffrais o fy mreuddwyd.
Rhwbiais fy nhalcen mewn ofn a chroesi fy hun, yn rhyfeddu ar y pethau od sy’n ymddangos mewn breuddwydion.
– Bron imi gysgodi gogoniant eu Lear, – meddyliais, yn fodlon, a throais drosodd, ac mi roeddwn yn edifar rhywsut nad oedd fy mreuddwyd wedi gallu cael ei orffen.
Yn Belgrade, 1899
Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”, 2020