Cymraeg

Roedd Radoje Domanović (Chwefror 16, 1873 – Awst 17, 1908) yn ysgrifennwr, gohebydd ac athro Serbiaidd, yn enwog yn bennaf am ei straeon byr ddychanol.

Ganwyd Radoje Domanović ym mhentref Ovsište yng nghanolbarth Serbia, yn fab i athro leol a mentrwr Miloš Domanović, a Persida Cukić, disgynydd o Pavle Cukić, un o gadlywyddion milwrol Y Gwrthryfel Gyntaf a’r Ail yn Serbia. Gwariodd ei blentyndod ym mhentref Gornje Jarušice ger Kragujevac, lle’r aeth i ysgol gynradd. Fe raddiodd ysgol ganol yn Kragujevac, a’r gyfadran athroniaeth yn Grand École (Prifysgol) Belgrade, lle astudiodd yr iaith Serbiaidd a Hanes.

Yn 1895, cafodd Domanović ei apwyntiad gyntaf, swydd fel athro, yn Pirot, yn Ne Serbia, ardal a oedd newydd gael ei ryddhau o’r Ymerodraeth Ottoman. Yn Pirot, cyfarfodd Jaša Prodanović (1867- 1948), athro ac actifydd bu’n helpu siapio ei safbwyntiau gwleidyddol. Yna hefyd, fe gyfarfodd ei ddarpar wraig, Natalija Raketić (1875- 1939), athrawes dlawd o Sremski Karlovci, a fyddai yn ei gefnogi drwy gydol ei fywyd byr a chythryblus, cafodd y ddau tri o blant gyda’i gilydd.

Ers pan ymunodd Plaid Radical y Bobl gwrthwynebol, fe wrthdarodd efo’r cyfundrefn llinach Obrenović, a chafodd ei drosglwyddo i Wranje erbyn diwedd 1895, ac yna yn 1896 ei drosglwyddo eto i Leskovac. Dechreuodd ei yrfa ysgrifennu yn ystod ei ddyddiau fel athro, cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf yn 1895. Ar ôl ei ymddangosiad cyhoeddus gyntaf yn erbyn y llywodraeth yn 1898, fe gafodd ef a’i wraig eu diswyddo o wasanaeth cyhoeddus, ac fe symudodd Domanović hefo’i deulu i Belgrade.

Yn Belgrade fe gychwynodd weithio gyda ysgrifennwyr eraill ar “Zvezda” (Seren), cyhoeddiad wythnosol, a’r papur newydd gwrthwynebol “Odjek” (Atsain). Yn ystod yr adeg yma fe ddechreuodd ysgrifennu a chyhoeddi ei straeon dychanol gyntaf, fel “Cythraul” ac “Diddymiad Nwydau”. Tyfodd ei enwogrwydd hefo cyhoeddiad ei straeon enwocaf, “Arweinydd” (1901) a “Stradija” (1902), lle bu yn ymosod ar ac yn datgelu rhagrith a diffygion y drefn.

Wedi’r trosfeddiant a orffenodd teyrnasiad Aleksandar Obrenović yn 1903, ar anterth poblogrwydd, derbynniodd Domanović swydd fel ysgrifennydd yn y Gweinidogiaeth Addysg, ac fe adawodd y llywodraeth newydd iddo ddychwelyd i’r Almaen am flwyddyn o arbenigedd, a dreuliodd yn Munich. Yn ôl yn Serbia, roedd Radoje yn siomedig hefo’r diffyg o unrhyw newid sylweddol cymdeithasol. Cychwynodd ei gyfnodolyn gwleidyddol wythnosol ei hun, “Stradija”, lle wnaeth barhau i feirniadu gwendidau’r democratiaeth newydd, ond nid oedd yr un cryfder na ysbrydoliaeth yn ei waith ag o’r blaen.

Bu farw Radoje Domanović hanner awr wedi hanner nos ar Awst 17ed, 1908, yn 35 oed, ar ôl brwydr hir hefo niwmonia cronig a twbercwlosis. Claddwyd ef ym Mynwent Newydd Belgrade. Collwyd gweddill ei waith anghyhoeddedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae rhai o weithoedd enwocaf Radoje Domanović yn cynnwys:

  • Arweinydd, 1901
  • Cythraul, 1898
  • Diddymiad nwydau, 1898
  • Llosgnodi, 1899
  • Môr marw, 1902
  • Gwrthryfel modern, 1902
  • Stradija, 1902
  • Ymresymiad Ychen Serbiaidd cyffredin, 1902

Mae Prosiect “Radoje Domanović” yn cael ei gynnal gan Vladimir Živanović, peiriannydd ansawdd a charwr llenyddiaeth , efo’r nod o digideiddio holl waith yr ysgrifennwr Serbiaidd Radoje Domanović, a galluogi i ddarllenwyr ar draws y byd ddarllen y gwaith gwreiddiol a’r cyfieithiadau. Cyfieithwyd y straeon canlynol yn arbennig ar gyfer Prosiect ac maent wedi eu cyhoeddi yma am y tro cyntaf:

Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”.

 

 


[Contents of this biographical reference page were written for the “Radoje Domanović” Project with the goal of promoting the life and works of the famous Serbian satirist, Radoje Domanović, and are released into public domain. Editor]