Tag Archive | cyfarfod

Arweinydd (1/3)

– Brodyr a ffrindiau, rwyf wedi gwrando ar eich areithiau oll, felly nawr rwy’n gofyn i chi wrando arna i. Nid yw ein holl drafodaethau a’n sgyrsiau yn werth dim tra ein bod yn parhau yn yr ardal diffrwyth yma. Yn y pridd tywodlyd yma ac ar y creigiau hyn does dim wedi gallu tyfu, hyd yn oed pan oedd blynyddoedd glawog, heb sôn am y sychder presennol, nad ydym wedi gweld y fath o’r blaen. Am ba hyd y gwnawn ni ddod at ein gilydd fel hyn a siarad mewn ofer? Mae’r gwartheg yn marw heb fwyd, ac yn o fuan bydd ein plant yn llwgu hefyd. Mae’n rhaid i ni ddarganfod ateb arall sy’n well a mwy call. Dwi’n meddwl y buasai’n well i adael y tir cras yma a fentro allan i’r byd i ddod o hyd i bridd gwell a mwy ffrwythlon oherwydd ni allem fyw fel hyn dim mwy.

Fel hyn y siaradodd trigolyn o rhyw ardal diffrwythlon unwaith, mewn llais blinedig, mewn rhyw gyfarfod. Dydy lle neu phryd yr oedd hyn ddim yn bwysig i ni erbyn hyn, rwy’n credu. Mae’n bwysig i fy nghredu y digwyddodd hyn rhywle mewn rhyw wlad ers stalwm, ac mae hynny’n ddigon. I fod yn onest, ar un pryd, meddyliais fy mod i wedi dychmygu’r holl stori rhywsut, ond fesul dipyn mi wnes i ryddhau fy hun o’r rhith tywyllodrus yna. Nawr rwy’n credu’n gryf fy mod am ddweud be wir ddigwyddodd a oedd yn rhaid iddo ddigwydd yn rhywle, rhywbryd, ac ni allaf fod wedi ei ddychmygu fy hun mewn unrhyw ffordd.

Roedd y gwrandawyr, a’u wynebau wan, lluddedig, a’u syllu gwag, dilewyrch, bron yn ddigymar, eu dwylo o dan eu gwregysau, yn ymddangos fel pe tasant yn cael eu hadfywio gyda’r geiriau doeth yma. Roedd pob un yn dychmygu’n barod ei fod mewn rhyw fath a wlad hudolus, paradwys lle y buasai gwaith caled yn cael ei wobrwyo hefo cynhaeaf cyfoethog.

– Mae o’n iawn! Mae o’n iawn! – sibrydodd y lleisiau disbyddedig o bob ochr.

– Ydyw’r lle yma yn a…g…o…s? – clywir murmur araf o gongl.

– Brodyr! – Yn sydyn atseiniodd llais cryfach a foddodd allan gweddill y lleisiau cryg, dwl – Ni allem ddod i unrhyw fath o gytundeb fel hyn. Mae pawb yn siarad ond does neb yn gwrando. Beth am i ni ddewis arweinydd? Pwy yn ein mysg y gallem ddewis? Pwy yn ein mysg sydd wedi trafeilio digon i adnabod y ffyrdd? Rydym i gyd yn gyfeillgar, ond ni fuaswn i yn rhoi fy mhlant na minnau dan arweiniaeth unrhyw berson sydd yma. Yn hytrach, dywedwch wrthyf pwy sy’n adnabod y teithiwr draw fan’na sy’n eistedd yn y cysgod ar gur y ffordd ers y bore?

Syrthiodd distawrwydd. Trodd pawb tuag at y dieithryn a syllu yn graff arno.

Eisteddodd y trafeiliwr, canol oed, yn ddistaw fel yn gynharach, ei wyneb brudd bron yn anweladwy o dan ei farf a’i wallt hir, yngholl yn ei feddyliau, gan guro ei ffon fawr ar y ddaear yn ysgafn o dro i dro.

– Ddoe fe welais yr un dyn hefo bachgen ifanc. Roeddynt yn gafael yn llaw ei gilydd wrth gerdded i lawr y stryd. Neithiwr fe adawodd y bachgen y pentref, ond fe arhosodd y dieithryn yma.

– Brawd, beth am i ni anghofio y manion gwirion yma, er mwyn i ni beidio collirhagor o amser. Pwy bynnag ydyw, mae o wedi dod o bell gan nad oes neb yn ei adnabod ac mae’n siwr ei fod yn gwybod y ffordd byrraf a’r ffordd orau o’n arwain ni. Fy marn i yw ei fod yn ddyn doeth iawn gan ei fod yn eistedd yna yn meddwl yn ddistaw. Buasai unrhyw un arall wedi busnesa yn ein materion deg waith neu fwy erbyn hyn, neu wedi cychwyn sgwrs hefo un ohonom, ond mae o wedi bod yn eistedd yna drwy’r amser ar ei ben ei hun yn dweud dim.

– Wrth gwrs, mae’r dyn yn eistedd yn ddistaw gan ei fod yn meddwl am rhywbeth. Mae’n rhaid ei fod yn ddeallus iawn – cytunodd y lleill a dechreusant astudio’r dieithryn drachefn. Roedd pob un wedi darganfod nodwedd ardderchog ynddo, yn profi ei ddeallusrwydd anhygoel.

Ni wastraffwyd mwy o amser yn siarad, felly penderfynodd pawb y buasai’n well i ofyn i’r teithiwr; a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi ei yrru gan Dduw i’w harwain nhw allan i’r byd i chwilio am diriogaeth gwell a mwy ffrwythlon. Fe ddylai ef fod yn arweinydd iddynt, a byddent yn gwrando arno ac yn ufuddhau ei eiriau heb gwestiwn.

Dewison nhw ddeg dyn o’u plith i fynd at y dieithryn i esbonio eu dewis iddo. Fyddai’r rhai a ddewiswyd am ddangos iddo y sefyllfa annifyr ac i ofyn iddo i fod yn arweinydd iddynt.

Felly dyma’r deg yn mynd ato dan ymgrymu. Dechreuodd un sôn am y pridd digynnyrch yn yr ardal, am y blynyddoedd sych a’r digalondeb ymysg y bobl. Fe orffennodd fel hyn:

– Mae’r amodau yn ein gorfodi i adael ein cartrefi a’n tir ac i symud allan i’r byd i ddarganfod mamwlad gwell. Ar y foment hon, pan rydym o’r diwedd wedi cytuno ar hyn, mae’n ymddangos fod Duw wedi dangos trugaredd drostom, ac wedi eich gyrru chi yma, chi ddieithryn doeth a teilwng, er mwyn i chi ein harwain a’n rhyddhau o’n trallod. Yn enw holl drigolion yr ardal, rydym yn erfyn arnoch i fod yn arweinydd.

Lle bynnag yr ewch chi, byddem yn dilyn. Rydych yn gwybod y ffyrdd ac yn bendant wedi cael eich geni mewn mamwlad gwell a mwy hapus. Fe wnawn wrando arnoch chi ac ufuddhau bob gorchmynyn. Fyddech chi, dieithryn doeth, yn cytuno i achub eneidiau rhag ddinistr? Fyddech chi’n fodlon bod yn arweinydd i ni?

Trwy gydol yr araith erfynnu, ni gododd y dieithryn doeth ei ben o gwbl.Ni symudodd o’r fan lle wnaethant ddod o hyd iddo yn y lle cyntaf. Roedd ei ben wediei ostwng, roedd yn gwgu ac yn dweud dim.Dim ond curo ei ffon ar y llawr o dro i dro a phendroni. Pan oedd yr araith drosodd, fe mwmiodd yn swta ac yn araf heb newid ei wedd:

– Mi wnai!

– Cawn ni fynd hefo chii edrych am le gwell?

– Cewch! Aeth ymlaen heb godi ei ben.

– Cododd brwydfrydedd a gwerthafawrogiad yn y bobl, ond ni ddywedodd y dieithryn dim .

Dywedodd y deg wrth y cynulliad am eu llwyddiant, wrth ychwanegu mai dim ond nawr yr oeddynt yn gallu gweld doethineb y dyn.

– Ni symydodd o’r fan na chodi ei ben hyd yn oed i weld pwy a oedd yn siarad hefo. Eisteddodd yn ddistaw a pharhaodd i fyfyrio. Dim ond tri gair y dywedodd yng ngwyneb ein holl siarad a gwerthfawrogiad.

– Dyn wirioneddol clyfar! Doethineb prin! – yr oeddynt yn gweiddi yn hapus o bob ochr, yn honni fod Duw ei hyn wedi ei yrru fel angel i’w hachub. Roeddynt i gyd yn bendant o lwyddiant o dan arweiniant nad oedd yn cael ei aflonyddu gan dim byd. Felly fe penderfynasant i setio allan wrth iddi wawrio drannoeth.

(tudalen nesaf)

Llosgnodi

Cefais freuddwyd ofnadwy. Nid wyf yn rhyfeddu cymaint am y freuddwyd ei hun, ond rwyf yn rhyfeddu sut y gallais ddod o hyd i’r dewrder i freuddwydio am bethau ofnadwy, pan yr wyf yn ddinesydd parchus fy hun, plentyn ufudd ein mam Serbia annwyl, fel pob un o’i phlant eraill. Wrth gwrs, fe wyddoch chi, os y buaswn yn eithriad mewn unrhyw beth, mi fuasai yn wahanol, ond, na, fy ffrind, rwy’n gwneud yrunion yr un fath a phawb arall, ac ynglŷn a bod yn ofalus hefo popeth, does neb yn gallu cyd-fynd â mi yn hynny. Mi welais unwaith, botwm sgleiniog o lifrai heddwas yn gorwedd yn y stryd, fe synnais ar ei lewyrch hudolus, a bron i mi basio heibio, yn llawn atgofion melys, pan yn sydyn, dechreuodd fy llaw grynu a neidio i saliwt, fy mhen wedi ymgrymu ar ei ben ei hun tuag at y ddaear, a fy ngheg yn lledaenu i’r wen hyfryd yr ydym i gyd yn ei wisgo pan yn cyfarch ein uwch swyddogion.

– Mae gwaed bonheddig yn llifo yn fy ngwythiennau – dyna beth sydd! – Dyma beth meddyliais y foment honno, edrychais yn ddirmygus ar y bwystfil yn pasio ac yn sefyll yn ddi-os ar y botwm.

– Am fwystfil! – dywedais yn chwerw, gan boeri, ac yna cerddais ymlaen yn ddistaw, wedi’m cysuro gan y syniad fod y fath anghenfil yn brin; roeddwn yn falch yn enwedig fod Duw wedi rhoddi i mi galon coeth a’r gwaed bonheddig a llawn sifalri ein cyndeidiau.

Wel, nawr rydych yn gallu gweld fy mod yn ddyn ardderchog, dim yn wahanol o gwbl i ddinasyddion parchus eraill, a mi fyddech yn rhyfeddu, mae’n siwr, sut y gallodd y fath bethau ofnadwy a gwirion ddigwydd yn fy mreuddwydion.

Ni ddigwyddodd unrhywbeth anarferol i mi y diwrnod hwnnw. Cefais ginio da a wedyn eisteddais yn pigo fy nannedd yn hamddenol, yn sipian fy ngwin, ac yna, wedi imi ddefnyddio fy hawliau dinesyddol dewr a chydwybodol, fe es i ngwely, a mynd a llyfr gyda mi er mwyn cysgu yn gynt.

Ar ôl prin amser, disgynnodd y llyfr o fy llaw, wedi i mi, wrth gwrs, leddfu fy chwant, fy holl ddyletswyddau wedi eu cwblhau, syrthiais i gysgu mor ddiniwed ag oen bach.

Yn sydyn, ffeindiais fy hun ar ffordd gul, fwdlyd yn arwain trwy’r mynyddoedd. Noson oer, dywyll.

Y gwynt yn rhuo drwy’r canghennau diffrwyth ac yn torri fel rasal pryd bynnag y cyffyrddai croen noeth. Yr awyr yn ddu, di-deimlad a bygythiol, ac eira fel llwch, yn chwythu i’ch llygaid ac yn taro yn erbyn eich wyneb. Dim enaid byw yn unman. Rwy’n brysio ymlaen ac yn llithro ar y ffordd fwdlyd bob hyn a hyn i’r chwith, i’r dde. Rwy’n simsanu, yn syrthio ac yn colli fy ffordd o’r diwedd, rwy’n crwydro ymlaen – Duw a ŵyr i ble – nid yw’n noson byr, arferol, ond mor hir a chanrif, a rwyf yn parhau i gerdded ar hyd y beit heb wybod i ble.

Felly cerddais ymlaen am flynyddoedd maith a chyrraedd rhywle ymhell bell i ffwrdd o fy ngwlad brodorol, i wlad estron nad oes neb yn gwybod amdano, ac rwyf yn siwr, y gellir ei weld mewn breuddwydion yn unig.

Tra’n crwydro o gwmpas y wlad fe ddois i dref fawr lle roedd llawer o bobl yn byw. Yn y farchnad fawr roedd torf enfawr, a sŵn ofnadwy yn mynd ymlaen, digon i fyrstio drwm eich clust. Arhosais mewn tafarn yn wynebu’r lle farchnad a gofynnais i’r lletywr pam fod gymaint o bobl wedi ymgynnull yno…

– Rydym yn bobl distaw a pharchus – cychwynodd ei stori- rydym yn ffyddlon ac yn ufuddi’r Maer.

– Ai eich awdurdod goruchaf yw’r Maer? – gofynnais, gan dorri ar ei draws.

– Y Maer sy’n rheoli fan hyn, a fo yw ein awdurdod goruchaf; yr heddlu sydd nesaf.

Chwerthais.

– Pam yr wyt yn chwerthin?… Ni wyddost ti?… O ble yr wyt yn dod?…

Dywedais fy mod wedi colli fy ffordd, ac yr wyf yn dod o wlad bell – Serbia.

– Rwyf wedi clywed am y wlad enwog yna! – sibrydodd y lletywr wrth ei hun, yn edrych arna i yn llawn parch, a fe siaradodd yn uwch:

– Dyna yw ein ffordd ni, – ehangodd, – mae’r Maer yn rheoli hefo’i heddweision.

– Beth mae eich heddlu fel?

– Wel mae ‘na wahanol fathau o heddlu – maent yn amrywio yn ôl eu rheng. Y mae rhai mwy nodedig a rhai llai nodedig…. rydym ni, fel y gwyddoch, yn bobl distaw a pharchus, ond mae bob math o gardotwyr yn dod o’r gymdogaeth, maent yn ein llygru ac yn ein dysgu pethau drygionus. Er mwyn gwahaniaethu ni o bobl estron, rhoddodd y Maer orchymyn ddoe y dylai pob dinesydd fynd i’r llys leol, lle caiff bob un ohonom ein brandio ar y talcen. Dyna pam mae gymaint o bobl wedi hel at ei gilydd, er mwyn penderfynnu beth i’w wneud.

Crynais wrth feddwl y dyliwn i redeg i ffwrdd o’r wlad rhyfedd yma cyn gynted ag y gallwn i, achos doeddwn i, er fy mod yn Serb, ddim wedi arfer efo’r fath arddangosiad o sifalri, ac roeddwn yn teimlo’n eithaf anesmwyth ynglyn a’r peth.

Chwerthodd y lletywr yn llesiannol, a tapio fi ar fy ysgwydd, gan ddweud gyda balchder:

– A, dieithryn, ydi hyn yn ddigon i dy ddychryn di? Dwi’n synnu dim, mae’n rhaid mynd yn bell i ddarganfod dewrder fel ein dewrder ni!

– Beth yr ydych am ei wneud? – gofynnais yn ofnus.

– Am gwestiwn! Fe welwch chi pa mor ddewr yr ydym ni. Fydd yn rhaid i chi drafeilio yn bell iawn i weld dewrder fel ein dewrder ni, rwy’n dweud. Rwyt ti wedi trafeilio yn eang ac wedi gweld y byd, ond rwy’n siwr nad wyt ti wedi gweld arwyr gwell na ni. Awn ni hefo’n gilydd. Mae’n rhaid i mi frysio.

Roeddem ni ar fin gadael pan glywsom chwip yn cracio o flaen y drws.

Sbeciais allan, ac am olwg oedd i’w weld yno, roedd dyn mewn cap trichornel sgleiniog, wedi ei wisgo mewn siwt lachar, yn marchog ar gefn dyn arall a oedd mewn dillad cyfoethog cyffredin. Wnaethant stopio o flaen y dafarn a dymchwelodd y marchog.

Aeth y lletywr allan, yn ymgrymu yn isel, yna aeth y dyn yn y siwt lachar i fewn i’r dafarn i fwrdd a oedd wedi ei addurno yn arbennig. Arhosodd y dyn yn y dillad bob dydd tu allan i’r dafarn. Ymgrymodd y lletywr yn isel iddo ef hefyd.

– Beth yw pwrpas hyn i gyd? – gofynnais i’r lletywr, wedi drysu’n llwyr.

– Wel, mae’r un a aeth i fewn i’r dafarn yn heddwas uchel ei rheng, a mae’r llall yn un o’n dinasyddion mwya nodedig, dyn cyfoethog iawn, gwladgarwr o fri, – sibrydodd y lletywr.

– Ond pam y mae’n gadael i’r dyn arall farchog ar ei gefn?

Ysgwydodd y lletywr ei ben ata i wrth i ni gamu i’r ochr. Rhoddodd wen dirmygus i mi a dywedodd:

– Rydym yn meddwl amdano fel anrhydedd mawr sydd yn anaml yn haeddiannol! – Dywedodd nifer fawr o bethau eraill hefyd, ond roeddwn wedi cynhyrfu gymaint fel ni allwn ddeall beth y dywedodd. Ond fe glywais yn glir beth ddywedodd yn y diwedd – Mae’n wasanaeth i’ch gwlad nad ydyw pob gwlad eto wedi dysgu i werthfawrogi!

Daethom at y cyfarfod, roedd etholiad y cadeirydd eisioes wedi cychwyn.

Cynigwyd dyn o’r enw Kolb gan y grŵp cyntaf, os rwy’n cofio ei enw yn iawn, fel ei ymgeisydd cadeiryddol; roedd yr ail grŵp eisiau Talb, a roedd gan y drydedd grŵp ei hymgeisydd ei hunain.

Roedd dryswch dychrynllyd; pob grŵp eisiau gwthio ei dyn eu hunain.

– Ni chredaf fod dyn gwell na Kolb i fod yn gadeirydd cyfarfod mor bwysig- dywedodd llais o’r grŵp gyntaf – achos rydym i gyd yn ymwybodol o’i rinweddau fel dinesydd a’i ddewrder enfawr. Nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn gallu brolio ei bod wedi cael ei farchog gymaint gan bobl hynod o bwysig…

– Pwy ydych chi i siarad fel hyn? – gwaeddodd rhywun o’r ail grŵp. – Dwyt ti erioed wedi cael dy farchog gan glerc iau yr heddlu!

– Rydym yn gwybod dy rinweddau, – criodd rhywun o’r drydedd grŵp – ni allet ti fyth ddioddef dim trawiad o’r chwip heb floeddio!

– Gawn ni un peth yn glir, frodyr! – cychwynodd Kolb – Mae’n wir fod boneddigion yn fy marchog i mwy na deg mlynedd yn ôl, gwanaethant fy chwipio a ni chriais fyth, ond efallai fod rhywun mwy teilwng yn ein plith. Efallai fod rhai ieuengach yn well.

– Na, na, – criodd ei gefnogwyr.

– ‘Dan ni ddim eisiau clywed am anrhydeddau y gorffennol! Mae’n ddeg mlynedd ers i Kolb gael ei farchog, – gwaeddodd lleisiau o’r ail grŵp.

– Mae gwaed ifanc yn cymryd drosodd, gadewch i hen gŵn cnoi eu hesgyrn – galwodd rhai o’r drydedd grŵp.

Yn sydyn, nid oedd rhagor o dwrw; symudodd pobl yn ôl, i’r chwith ag i’r dde, i glirio llwybr ac mi welais ddyn tua tri deg oed. Fel y nesaodd, roedd pob pen wedi gostwng.

– Pwy yw hwn? – sibrydais i’r lletywr.

– Hwn yw’r arweinwr poblogaidd. Dyn ifanc ond yn addawol iawn. Yn ei ddyddiau cynnar gallai frolio ei fod wedi cario’r Maer ar ei gefn dair gwaith. Mae o’n fwy poblogaidd na neb arall.

– Efallai wnawn nhw ei ethol? – gofynnais

– Mae hynny yn fwy na thebyg, achos mae amser wedi mynd heibio i’r ymgeiswyr eraill i gyd, maent yn hŷn, lle mae’r Maer wedi marchog ar gefn hwn am sbel ddoe.

– Beth yw ei enw?

–Kleard.

Fe wnaethon nhw rhoi lle anrhydeddol iddo.

– Credaf, – torrodd llais Kolb drwy’r distawrwydd, – ni allem ddarganfod dyn gwell am y swydd na Kleard. Mae o’n ifanc, ond does neb ohonom ni sy’n hŷn yn gyfartal iddo.

– Clywch, clywch!… Bywyd hir i Kleard! – rhuodd y lleisiau i gyd.

Fe wnaeth Kolb a Talb mynd a fo i safle y cadeirydd. Ymgrymodd pawb yn isel, ac roedd distawrwydd perffaith.

– Diolch i chi, frodyr, am eich parch mawr a’r anrhydedd yma yr ydych wedi rhoddi i mi mor unfrydol. Mae eich gobeithion, sydd yn fy ngolwg nawr, yn rhy hael. Nid yw’n beth hawdd ilywio llong dymuniadau ein cenedl drwy ddyddiau mor bwysig, ond mi wnaf bopeth yn fy ngrym i gyfiawnhau eich ffydd, i gynrychioli eich barn yn onest, ac i haeddu eich meddwl uchel ohonaf. Diolch, fy mrodyr, am fy ethol.

– Hwre! Hwre! Hwre! – tarannodd y pleidleiswyr o bob ochr.

– A nawr, frodyr, gobeithiaf cael dweud ychydig o eiriau am yr achlysur bwysig yma. Nid yw yn hawdd i ddioddef y fath boenau, y fath poenydio sydd yn ein wynebu nawr; nid yw yn hawdd cael llosgnodi eich talcen hefo haearn boeth. Yn wir, na- ni ellir pob dyn ddioddef poenau tebyg. Gadewch i’r cachgwn grynu, gadewch iddynt wingo mewn ofn, ond ni ddyliem anghofio am eiliad mai meibion cyndeidiau dewr yr ydym ni, bod gwaed bonheddig yn llifo drwy ein gwythiennau, gwaed arwrol ein teidiau, marchogion gwych a bu farw heb godi blewyn, dros heddwch a budd pob un ohonom ni, eu hepil. Bychan yw ein dioddefaint, os yr ydym yn meddwl am eu dioddefaint hwy – ydym ni am fihafio fel aelodau hil diryw a llwfr, nawr, gan yr ydym yn byw gwell fywyd nag erioed? Mae pob gwladgarwr gwir, pawb sydd ddim eisiau cywilyddu ein cenedl o flaen y byd i gyd, am ddioddef y poen fel dyn a fel arwr.

– Clywch, clywch! Bywyd hir i Kleard!

Roedd nifer o siaradwyr brwdfrydig ar ôl Kleard, wnaethant annog y bobl ofnus ac ailadrodd yr hyn a ddywedodd Kleard, mwy neu lai.

Yna gofynnodd hen ddyn i gael siarad. Roedd o’n wan ac yn flinedig, a gwyneb llawn crychau, ei wallt a’i farf yn wyn fel eira. Crynodd ei bennau glin gan oed, ysgwydodd ei ddwylo, ei gefn wedi ei blygu. Crynodd ei lais, roedd ei lygaid yn llachar yn llawn dagrau.

– Plant, – cychwynodd, dagrau yn rowlio i lawr ei fochau gwyn, crychlyd ac yn syrthio ar ei farf wen – rwyf yn drist iawn a mi fyddaf yn marw yn ô fuan, ond nid wyf yn meddwl y ddyliech chi adael i’r fath gywilydd ddod drostoch chi. Rwy’n gant oed, a wedi byw trwy gydol fy mywyd heb hynny!… Pam ddyliai stamp caethiwed gael ei losgnodi ar fy mhen wen a blinedig nawr?…

– I lawr a’r hen walch! – bloeddiodd y cadeirydd.

– I lawr a fo! – gwaeddodd rhai eraill.

– Yr hen gachgi!

– Yn hytrach nag annog yr ifanc, mae’n codi ofn ar bawb!

– Mi ddyliai godi cywilydd arno am ei wallt gwyn! Mae o wedi byw digon hir, ac mi ellith dal fod yn ofnus – rydym ni, y rhai ifanc yn ddewrach…

– I lawr a’r cachgi!

– Taflwch ef allan!

– I lawr a fo!

Rhuthrodd torf o wladgarwyr ifanc, dewr at yr hen ddyn gan gychwyn ei wthio, ei dynnu a’igicio mewn cynddaredd.

Gadawsant iddo fynd o’r diwedd, gan ei fod yn hen – neu y buasent wedi ei ladd a cherrig ar ei union.

Gaddodd pob un i fod yn ddewr yfory ac i ddangos eu hunain yn deilwng o anrhydedd a gogoniant eu cenedl.

Gadawsant y cyfarfod yn drefnus iawn. Wrth iddynt fynd, dywedasant:

– Fe welwn yfory pwy ydi pwy!

– Wnawn ni sortio’r brolwyr yfory!

– Mae’n hen amser i’r rhai teilwng gael eu gwahaniaethu gan y rhai anheilwng, er mwyni bob gwalch beidio gallu brolio fod ganddo galon dewr!

Mi ddychwelais i’r dafarn.

– Ydych chi wedi gweld o beth yr ydym wedi ein gwneud? – gofynodd fy lletywr yn llawn balchder

– Yn wir, rwyf wedi, – atebais yn awtomatig, wrth i’m cryfder adael, fy mhen yn fwrlwm o argraffiadau rhyfedd.

Ar y diwrnod honno fe ddarllenais erthygl bwysig yn eu papur newydd a aeth fel hyn:

– Dinasyddion, mae’n amser i atal y brolio oferus a’r jarffio, mae’n amser i beidio rhoi pŵer i’r geiriau gwag yr ydym yn eu defnyddio gymaint bob dydd er mwyn arddangos ein rhinweddau dychmygol a theilwng. Mae’r amser wedi cyrraedd, dinasyddion, i ni brofi ein geiriau ac i ddangos pwy sydd wir yn ddilys a phwy sydd ddim! Ond credwn na fydd unrhyw cachgwn digywilydd yn ein mysg a fydd angen cael eu gorfodi i’r safle llosgnodi apwyntedig. Mi fydd pob un ohonom sydd yn teimlo diferyn o waed bonheddig ein cyndeidiau yn brwydro i fod yn un o’r rhai cyntaf i ddioddef y poen a’r dolur, yn ddewr ac yn ddistaw, gan mai poen sanctaidd yw hon, mae’n aberth er mwyn lles ein gwlad ac o fudd i ni gyd. Ymlaen, ddinasyddion, yfory yw diwrnod y prawf pendefigaidd!…

Y diwrnod honno, aeth fy lletywr i’w wely yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn cyrraedd y man priodol cyn gynted ag oedd bosib y diwrnod canlynol. Er hynny, roedd nifer wedi mynd yn syth i neuadd y dref er mwyn bod mor agos a oedd yn bosib i flaen y ciw.

Drannoeth, mi es innau hefyd i neuadd y dref. Roedd pawb yno – yr hen a’r ifanc, gwryw a benyw. Daeth rhai mamau a’u babannod bychain hefo nhw, iddynt gael eu llosgnodi hefo stamp caethiwed, hynny yw, o anrhydedd, a felly yn cael fwy o hawl i swyddau uchel yn y gwasanaeth sifil.

Roedd gwthio a rhegi (yn dangos eu bod yn eitha tebyg ini, y Serbiaid; ymfalchiais yn hyn, rhywsut) a roedd pawb yn ceisio bod y cyntaf i’r drws. Roedd rhai hyd yn oed yn gafael yng ngyddfau rhai eraill.

Llosgnodwyd y stamp gan was sifil arbennig mewn siwt wen ffurfiol, a oedd yn edliwio’r bobl yn ysgafn:

– Peidiwch a mwmial, yn enw Duw, fe ddaw tro pawb – nid anifeiliaid ydych chi, dwi’n amau y gallwn wneud heb wthio.

Dechreuodd y llosgnodi. Criodd un allan, bu un arall dim ond yn griddfan, ond ni all neb ei ddioddef heb wneud sŵn o gwbl tra yr oeddwn i yno.

Ni allaf wylio y fath arteithio am hir, felly fe es yn ôl i’r dafarn, ond roedd rhai ohonynt yno yn barod, yn bwyta ac yn yfed.

– Mae hynny drosodd! – dywedodd un ohonynt.

– Wel, wnaethon ni ddim sgrechian go iawn, ond roedd Talb yn brefu fel asyn… – dywedodd un arall.

– Weli di sut un yw dy Talb di, a roeddet ti eisiau ei gael o fel cadeirydd y cyfarfod ddoe.

– O, ‘dach chi byth yn gallu dweud!

Fe wnaethant siarad, gan duchan a gwingo mewn poen, ond gan geisio ei guddio gan ei gilydd, gan fod ganddynt gywiliydd o cael eu hystyried yn gachgwn.

Roedd Kleard yn warthus, gan y wnaeth gwynfannu, roedd dyn o’r enw Lear yn arwr gan iddo ofyn igael dau llosgnod boeth ar ei dalcen a heb wneud smic. Roedd y dref i gyd yn siarad amdano efo’r parch uchaf.

Rhedodd rhai pobl i ffwrdd, ond roedd pawb yn casau rheiny.

Wedi ychydig ddyddiau, cerddodd yr un efo’r dau llosgnod ar ei dalcen o gwmpas hefo’i ben yn uchel, ag urddas a hunan-barch, a lle bynnag yr aeth, ymgrymodd pawb a thipian eu hetiau i saliwtio arwr y dydd.

Rhedodd dynion, merched a phlant ar ei ôl yn y stryd i weld dyn gorau y wlad. Lle bynnag yr aeth, cafodd ei ddilyn gan sibrydion wedi eu hysbrydoli gan barchedig ofn: ‘Lear, Lear!… Dyna fo!… Dyna’r arwr wnaeth peidio gweiddi tra llosgnodwyd ef ar ei dalcen gan ddau stamp boeth!’ Roedd o ym mhenawdau’r papurau newydd, wedi ei foli a’i ogoneddu.

Yr oedd wedi haeddu cariad y bobl.

Dros bob man rwy’n gwrando ar y fath foliant, ac rwy’n dechrau teimlo’r hen waed Serbiaidd bonheddig yn rhedeg drwy fy ngwythiennau. Roedd ein hynafiaid yn arwyr, buont farw ar ystanciau dros ryddid; mae hefyd gennym ein gorffennol arwrol, hefyd ein Kosovo. Rwy’n gwefrio â balchder a gwagedd cenedlaethol, yn eiddgar i ddangos pa mor ddewr yw fy rhywogaeth ac i frysio i neuadd y dref i weiddi:

– Pam yr ydych yn moli eich Lear?… Ni welsoch chi fyth wir arwyr! Dewch i weld dros eich hunain beth mae gwaed bonheddig Serbiaidd fel! Llosgnodwch ddeg stamp ar fy mhen, nid dau yn unig!

Daeth y gwas sifil a’i stamp yn agos at fy nhalcen a fe neidiais… deffrais o fy mreuddwyd.

Rhwbiais fy nhalcen mewn ofn a chroesi fy hun, yn rhyfeddu ar y pethau od sy’n ymddangos mewn breuddwydion.

– Bron imi gysgodi gogoniant eu Lear, – meddyliais, yn fodlon, a throais drosodd, ac mi roeddwn yn edifar rhywsut nad oedd fy mreuddwyd wedi gallu cael ei orffen.

 

Yn Belgrade, 1899
Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”, 2020

Ymresymiad ychen Serbiaidd cyffredin

Mae llawer o ryfeddodau yn digwydd yn y byd yma, ac y mae ein gwlad, fel y dywedir nifer o bobl, yn gorlifo hefo rhyfeddodau i’r fath raddau fel nad ydydnt yn rhyfeddodau, bellach. Mae yma bobl mewn swyddi uchel sydd ddim yn meddwl o gwbl, a fel iawndal, neu efallai am resymau eraill, cychwynodd ychen gwerinwr cyffredin, nad oedd yn wahanol o gwbl i unrhyw ychen Serbiaidd arall, feddwl. Duw a wyr be ddigwyddodd i wneud i’r anifail dyfeisgar feiddio cychwyn y fath ymgais mentrus, yn enwedig gan ei bod wedi’i brofi yn Serbia bod yr alwedigaeth anffodus yma yn dod a dim ond anghymwynas. Gadewch i ni ddweud nad oedd yr hen greadur yma, yn ei ddiniweidrwydd, yn ymwybodol nad oedd yr ymgais hyn yn broffidiol yn ei famwlad, felly ni fyddem yn ei briodoli hefo unrhyw ddewrder dinesig arbenning. Ond mae dal i fod yn ddirgelwch paham bu ychen yn meddwl drosto’i hun, er nad yw yn gallu bod yn bleidleisiwr, neu yn gynghorydd, neu yn henadur pentrefol, ac ni chaiff ei ethol fel dirprwy mewn unrhyw gynulliad buchol, neu hyd yn oed (os ydyw wedi cyrraedd oed penodol) yn seneddwr. Ac os oedd y peth druan wedi breuddwydio o gwbl am fod yn weinidog gwladol mewn unrhyw wlad buchol, mi ddyliai fod wedi gwybod y buasai’n well ganddo i feddwl cyn lleied a phosib, fel aelodau seneddol ardderchog mewn gwledydd hapusach, ond nid yw ein gwlad mor lwcus yn hyn o beth chwaith. Yn y pen draw, pam y ddyliem ni boeni am pam bo ychen yn Serbia wedi ymgeisio mewn rhywbeth a gafodd ei anghofio gan drigolion y wlad? Hefyd, efallai bod hyn wedi digwydd oherwydd rhyw reddf naturiol ganddo.

Felly, pa fath o ychen yw hyn? Ychen arferol sydd, fel mae sŵoleg wedi ein dysgu, hefo pen, corff, ac aelodau, fel pob ychen arall; mae’n tynnu trol, bwyta gwair, llyfu halen, cnoi cil ac yn brefu. Ei enw yw Sivonja, yr ychen lwyd.

Dyma sut y cychwynodd feddwl. Un diwrnod gafodd ei ieuo gan ei feistr hefo’i ffrind, Galonja, a llwytho’r trol efo ffensys wedi’u dwyn, a lawr a nhw i’r dref i’w gwerthu. Bron yn syth bin ar ôl cyrraedd y dref, fe werthodd y ffensys a bu’n dadieuo Sivonja a’i ffrind, clymu’r cadwyn i’r iau ac yn taflu ysgub o chwyn gwniadur o’u blaenau cyn mynd i dafarn fechan i adfywio hefo ychydig o ddiod. Roedd gwŷl yn mynd ymlaen yn y dref, felly roedd dynion, merched a phlant yn mynd heibio ar bob ochr. Ni edrychodd Galonja, a oedd yn arfer cael ei ystyried gan y gwartheg erail fel twp, ar unrhywbeth. Yn hytrach, fe gychwynodd lowcio ei ginio o ddifri, bwyta llond bol, brefu ychdig mewn pleser pur, ac yna gorwedd ilawr, i bendwmpian yn felys a chnoi cil. Doedd yr holl bobl yn pasio heibio yn golygu dim iddo. Roedd yn pendwmpian ac yn cnoi cil yn heddychlon (piti nad oedd yn berson, hefo’r holl rhagdueddiadau yma am yrfa aruchel). Ond ni all Sivonja gymryd dim un cegiad. Roedd ei lygaid breuddwydiol a’r wedd drist ar ei wyneb yn dangos ar yr ymddangosiad cyntaf ei fod yn feddyliwr, ac yn enaid pêr ac argraffadwy. Roedd pobl, Serbiaid, yn mynd heibio iddo, llawn balchder am eu gorffennol, eu henw, eu cenedl. Roedd y balchder yma yn ymddangos yn eu hymarweddiad llym a’u camau. Gwyliodd Sivonja hyn i gyd, yn sydyn, roedd ei enaid wedi llenwi gan dristwch a phoen am yr anghyfiawnder aruthrol, ac ni all gwffio yn erbyn y fath emosiwn cryf, sydyn a phwerus; fe frefodd yn llwm, yn boenus, dagrau yn cronni yn ei lygaid. Ac ymysg y poen aruthrol, dechreuodd Sivonja feddwl:

– Beth sy’n creu’r fath balchder yn fy meistr a’i gydwladwyr, y Serbiaid? Pam y maent yn dal eu pennau mor uchel ac yn edrych ar fy mhobl hefo balchder ffroenuchel a dirmyg? Maent yn falch o’u mamwlad, falch fod tynged drugarog wedi gadael iddynt gael eu geni yma yn Serbia. Bu fy mam fy hun yn rhoi genedigaeth i mi yma yn Serbia hefyd, ond nid yn unig i mi y mae’n wlad brodorol, ond i fy nhâd hefyd, ac fe wnaeth fy nghyndeidiau ddod i’r tiroedd yma o’r hen famwlad Slafaidd, fel eu cyndeidiau nhw. Ac eto, does yr un ychen wedi teimlo balchder drosto, fe deimlwn ni’n falch o’n gallu i dynnu llwyth trymach i fyny’r allt; hyd heddiw, does yr un ychen wedi dweud wrth ychen Almaeneg: “Beth wyt ti eisiau gennyf, ychen Serbiaidd ydw i, Serbia yw fy mamwlad parchus, mae fy holl gyndeidiau wedi eu lloia yma, ac yma, yn y wlad hon mae beddau fy hynafiaid”. Duw â wyr, ni fyddem fyth yn ymfalchio yn hynny, nid yw byth wedi croesi ein meddyliau, ac maent hwy hyd yn oed yn ymfalchio mewn hynny. Pobl od!

Wedi’i golli yn y meddyliau yma, fe ysgwydodd yr ychen ei ben yn drist, y gloch am ei wddw yn canu a’i iau yn clecian. Agorodd Galonja ei lygaid, edrychodd ar ei ffrind a brefodd:

– Dyna ti eto hefo dy giamocs! Bwyta, twpsyn, tyfa dipyn o frasder, edrycha ar dy asennau yn sticio allan i gyd; pe buasai’n beth da i feddwl, ni fuasai pobl wedi ei adael i ni’r ych? Ni fuasem byth wedi bod mor lwcus!

Edrychodd Sivonja ar ei gymfrawd â thrueni, trodd ei ben oddi wrtho, a dychwelyd yn ôl i fyd ei feddyliau.

– Maent yn ymfalchio yn eu gorffennol gogoneddus. Mae ganddynt eu Cae Kosovo, Brwydr Kosovo. Beth felly? Mae fy nghyndeidiau wedi tynnu certiau hefo bwyd ac arfau, hyn yn oed bryd hynny. Heblaw amdanom ni, mi fuasai pobl wedi gorfod gwneud hynny eu hunain. Yna, mae’r gwrthryfel yn erbyn y Twrciaid. Ymgais crand a bonheddig, ond pwy oedd yna ar y pryd? Ai y twpsod ffroenuchel, yn trosythi llawn balchder o fy mlaen fel pe buasant yn haeddu’r teilyngdod, a ddechreuodd y gwrthfryfel? Gwele, cymera fy meistr fel esiampl. Mae o mor falch ac yn brolio am y gwrthryfel, yn enwedig gan bu farw ei hen daid yn y rhyfel am ryddhad fel arwr go iawn. Ai hyn yw teilyngdod fy meistr? Roedd gan ei hen daid yr hawl i ymfalchio, ond nid yfo, bu farw ei hen daid er mwyn i fy meistr, a’i ddisgynyddion allu bod yn rhydd. Felly, y mae ef yn rhydd, ond sut y mae’n defnyddio ei ryddid? Mae’n dwyn ffensys pobl eraill, yn eistedd ar ei drol, ac mae’n rhaid i mi dynnu fo a’i ffensys tra’i bod yn cysgu wrth yr awenau. Nawr y mae wedi gwerthu ei ffensys, mae’n yfed gwirodydd, yn gwneud dim ac yn ymfalchio yn ei orffennol gogoneddus. A faint o fy hynafiaid gafodd eu lladd yn y gwrthryfel i fwydo’r brwydrwyr? Onid oedd fy hynafiaid ar y pryd yn tynnu’r arfau, canonau, bwyd a bwledi? Ond dydym ni ddim yn ymfalchio yn eu haeddiannau achos dydym ni ddim wedi newid; rydym dal i wneud ein dyletswydd heddiw, yn union fel y gwnaeth ein cyndeidiau, yn amyneddgar ac yn gydwybodol.

Maent yn falch am ddioddefaint eu cyndeidiau ac o bum can mlynedd o gaethwasiaeth. Mae fy nhras wedi dioddef trwy gydol ein bodolaeth, ac rydym dal i ddioddef, a mewn caethiwed, ac eto, nid ydym yn sgrechian amadano dros bob man. Maent yn dweud y gwnaeth y Twrciaid eu arteithio, lladd a’u trywanu;wel cafodd fy ngyndeidiau eu lladd gan Serbiaid a Thwrciaid yr un fath, a’u rhostio, a’u arteithio mewn bob math o ffyrdd.

Maent yn ymfalchio yn eu crefydd ac eto yn credu mewn dim byd. Beth sy’n bod arna i a’m teulu i wneud i Gristnogion methu ein derbyn? Mae eu crefydd yn dweud wrthynt “Peidiwch a dwyn” a dyna lle mae fy meistr yn dwyn ac yn yfed efo’r pres a gafodd am ddwyn. Mae eu crefydd yn eu hybu i garu eu cymdogion, ac eto dim ond niweidio ei gilydd y maent yn ei wneud. Iddynt hwy, y dyn gorau, esiampl o rinwedd, yw’r un sydd yn gwneud dim niwed, ac wrth gwrs, nid oes neb yn ystyried gofyn i unrhyw un wneud rhywbeth da hefyd, heblaw am beidio gwneud niwed. Dyna pa mor isel y maent wedi disgyn fel bod eu hesiamplau o rinweddau da yn ddim mwy na gwrthrych dibwrpas sy’n peri dim niwed.

Ochneidiodd yr ychen yn ddwfn, cododd ei ochenaid y llwch o’r ffordd.

Felly, parhaodd yr ychen efo’i meddyliau trist, megis, onid ydw i a fy nheulu yn well yn hyn i gyd na bob un ohonyn nhw? Dwi byth wedi llofruddio neb, dwi byth wedi difenwi neb, heb ddwyn dim byd, heb beri i ddyn dieuog golli ei swydd o wasanaeth cyhoeddus, heb wneud colled i drysorfa y stâd, heb ddatgan methdaliad ffug, dwi erioed wedi cadwyno nag arestio pobl dieuog, dwi byth wedi athrodi fy ffrindiau, dwi heb fyth mynd yn erbyn fy egwyddorion fel ychen, dwi heb wneud tystoliaethau ffug, bues i erioed yn weinidog gwladol a heb wneud niwed i’r wlad; ac nid yn unig heb wneud niwed, dwi hyd yn oed yn gwneud lles i’r rhai sydd yn fy niweidio. Cefais fy ngeni gan fy mam ac yn syth bin, cipwyd llefrith fy mam gennyf gan ddynion drwg. O leiaf mae Duw wedi creu gwair i ni yr ychen, ac nid iddynion, ond maent yn ein amddifadu o hynny hefyd. Ag eto, heblaw yr holl guro, rydym ni dal i dynnu certiau’r dynion, aradr eu caeau a bwydo bara iddynt. Ond nid yw yr un person yn canu canmoliaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud dros y famwlad.

– Neu cymerwch ymprydio, er enghraifft; wel, i ddynion mae crefydd yn eu gorchmynu i ymprydio ar bob diwrnod gwŷl, ond nid ydynt yn fodlon i ddioddef yr ychydig bach yma o ymprydio, tra fy mod innau a’m teulu yn ymprydio drwy gydol ein bywydau, ers pan y cawsant ein diddyfnu o frest ein mam.

Gostyngodd yr ychen ei ben fel pe bai yn poeni, yna fe’i gododd drachefn, gan ffroeni’n flin, roedd yn edrych fel pe bai rhywbeth pwysig yn dod yn ôl ato, yn ei dormentio; yn sydyn, fe frefodd yn llon.

– O, nawr rwy’n deall, mae’n rhaid iddo fod fel hyn- ac fe ddaliodd ati i feddwl- dyna beth sydd; maent yn falch am eu rhyddid a’u hawliau sifil. Mae’n rhaid i mi ddechrau meddwl am y peth o ddifri.

Mi feddyliodd a meddyliodd ond ni allai ddeall.

– Beth yw’r hawliau sydd ganddynt? Os yw’r heddlu yn eu gorchmynnu i bleidleisio, maent yn pleidleisio, felly buasem ni’n gallu brefu’n uchel “ooooo blaaaaaaiiiid! ”. Os nad ydynt yn cael eu gorfodi iwneud, ni feiddiant pleidleisio, neu hyd yn oed dablo mewn gwleidyddiaeth, yn union fel ni. Maent hefyd yn dioddef cosfa yn y carchar, hyd yn oed os ydynt yn gwbl ddieuog. O leiaf rydym ni’n brefu ac yn chwifio ein cynffonnau, nid oes ganddynt hyd yn oed y dewrder dinesig bach yna.

Y foment honno, daeth ei feistr o’r dafarn. Wedi meddwi, yn roncian, ei lygaid yn aneglur, yn mwmian rhyw eiriau annealladwy, fe gerddodd ling di long at y trol.

– Gwelwch fel y mae’r disgynydd balch yma yn defnyddio’r rhyddid a gafodd ei ennill hefo gwaed ei gyndeidiau? Iawn, mae fy meistr yn feddw ac yn leidr, ond sut y mae pobl eraill yn defnyddio’r rhyddid yma? Er mwyn diogi ac ymfalchio yn y gorffennol a theilyngdod eu hynafiaid, lle maent wedi cyfrannu yr un faint iddo ag yr rwyf innau. A ni’r ychod, rydym wedi parhau i fod yn weithwyr mor ddiwyd a defnyddiol, yn union fel bu ein hynafiaid. Rydym ni’n ychen ond mi allem ymfalchio yn ein gwaith caled a’n rhinweddau heddiw.

Ochneidiodd yr ychen yn ddwfn a pharatoi ei wddf am yr iau.

 

Yn Belgrade, 1902
Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”, 2020