Arweinydd (2/3)

(tudalen gynt)

Bore trannoeth roedd pawb oedd yn ddigon hyderus i fynd ar daith hir wedi ymgynull. Fe ddaeth mwy na dau gant o deuluoedd i’r fan penodedig. Dim ond ychydig a arhoswyd adref i edrych ar ôl yr hen bentref.

Yn wir, roedd yn drist i edrych ar y dorf yma o bobl digalon a oedd wedi ei gorfodi drwy anffawd chwerwi gefnu ar eu tir genedigol a beddau eu cyndadau. Roedd eu wynebau yn flinedig, lluddedig ac wedi llosgi gan yr haul. Roedd dioddefaint o lawer flwyddyn llafurus yn ymddangos yn yr effaith arnynt ac yn dangos llun o drallod ac anobaith. Ond ar yr adeg yma fe welwyd sbardun bitw obeithiol – wedi ei gymysgu yn sicr hefo hiraeth. Syrthodd deigryn i lawr gwedd crychog lawer hen ddyn wrth iddynt ochneidio ac ysgwyd eu pennau hefo teimlad o ragwelediad adwythig. Buasai’n well ganddynt aros yma am beth amser er mwyn marw ymysg y creigiau yma yn hytrach nag edrych am well mamwlad. Roedd llawer dynes yn galarnad yn uchel ac yn dweud ffarwel i’w hanwyliaid marw wrth adael eu beddau.

– Roedd y dynion yn ceisio ymddangos yn ddewr wrth weiddi – wel ydych chi eisiau parhau i lwgu yn y wlad damnedig yma a byw mewn cytiau? – Yn wir, mi fuasai’n well ganddynt fynd a’r holl ardal melltigedig hefo nhw, pe bai hynny’n bosib.

Yr oedd y twrw arferol a gweiddi fel yng nghanol pob dorf. Roedd pob dyn a dynes yn anesmwyth. Roedd y plant yn gwichian mewn crudiau ar gefnau eu mamau. Roedd hyd yn oed yr anifeiliad braidd yn anesmwyth. Nid oedd gormod o wartheg, llo bach yma ac acw a cheffyl blêr, ysgyrnog gyda pen mawr a choesau tewion a oeddynt yn llwythi arno hen rygiau, bagiau a hyd yn oed dau sach dros y pac cyfrwy fel bod yr anifail druan yn gwegian dan y pwysau. Ond fe allodd aros ar i fyny a brefu o dro i dro. Roedd erail yn llwytho asynau, y plant yn tynnu cŵn ar dennyn. Siarad, rhegi, wylofain, crio, cyfarth, brefu – clywir hyn oll. Roedd asyn arall yn brefu cwpl o weithiau. Ond ni ddywedodd yr arweinydd yr un gair, fel pe bai yr holl fusnes yn ddim byd i wneud hefo fo.Dyn doeth go iawn!

Fe eisteddoddd yn feddyliol a distaw, ei ben i lawr. Nawr ag yn y man fe boerodd, ond dyna’n unig. Ond yn sgil ei ymddygiad od, fe dyfodd ei boblogrwydd gymaint fel y byddai pob un yn fodlon mynd trwy dân neu ddŵr, fel y dywedir, er ei fwyn. Gellid clywed y sgyrsiau canlynnol:

– Dywedodd un, wrth edrych ar yr arweinydd hefo parch a balchder – Dyliasem fod yn hapus i ddod o hyd i ddyn fel hyn. Os y buasem wedi cychwyn hebddo, Duw a wyr! Mi fuasem wedi trengu. Mae ganddo wir ddoethineb, dywedaf! Mae’n hollol ddistaw. Nid ydyw wedi dweud gair eto!

– Beth ddylai ef ei ddweud? Nid yw y sawl sydd yn siarad llawer yn meddwl llawer. Mae’n ddyn clyfar, mae hynny’n sicr! Dim ond pendroni ac yn dweud dim y mae’n ei wneud – ychwanegodd un arall, ac fe edrychodd yntau ar yr arweinydd mewn parchedig ofn.

– Nid yw’n hawdd i arwain gymaint o bobl! Mae’n rhaid iddo gasglu ei feddyliau gan fod ganddo ddyletswydd fawr ar ei ysgwyddau – dywedodd y cyntaf eto.

Daeth yr amser i gychwyn. Arhoswyd am ychydig, fodd bynnag , i weld os oedd unrhyw un am newid ei feddwl a dod hefo nhw, ond ni ddaeth neb, felly ni allent oedi ymhellach.

– Dyliem ni adael? – gofynasant i’r arweinydd

Fe gododd heb ddweud gair.

Ar unwaith, casglodd y dynion mwyaf dewr o’i gwmpas i fod ar law rhag ofn unrhyw berygl neu argyfwng.

Fe gymerodd yr arweinydd ychydig o gamau, wrth gwgu, ei ben i lawr, yn siglo ei ffon o’i flaen mewn ffordd urddasol. Symudodd y dorf ymlaen tu ôl iddo gan weiddi sawl gwaith “Bydded i’r arweinydd gael bywyd hir!” Fe gymerodd sawl cam drachefn cyn taro i mewn i’r ffens o flaen neuadd y pentref. Yna, yn naturiol, fe safodd yn stond, a fe stopiodd y dorf hefyd. Camodd yr arweinydd ychydig yn ôl a tharo’i ffon ar y ffens sawl gwaith.

– Beth ydych chi eisiau i ni wneud? – gofynasant.

Ni ddywedodd dim.

– Beth ddyliem ni wneud? Torri’r ffens i lawr! Dyna beth sy’n rhaid i ni wneud! Dyna beth mae o wedi dangos i nii’w wneud efo’i ffon? Gwaeddodd rheini a oedd yn sefyll o gwmpas yr arweinydd.

– Dyna’r giat! Dyna’r giat! – sgrechiodd y plant wrth bwyntio at y giat yn sefyll gyferbyn.

– Ust, distewch, blant!

– Duw a’n helpo ni, be sy’n mynd ymlaen? Wnaeth rhai o’r hen ferched groesi eu hunain.

– Dim gair! Mae o’n gwybod beth i’w wneud. Rhwygo’r ffens i lawr!

Mewn eiliad roedd y ffens i lawr fel pe tasai erioed wedi bodoli. Aethant heibio’r ffens.

Prin yr aethant gant cam ymlaen pan redodd yr arweinydd i fewn i lwyn drain a stopiodd. Ni symudodd neb.

– A beth sy’n bod nawr? – gwaeddodd y rhai yn y cefn.

– Torrwch y ddraenen i lawr! – rhuodd y rhai a oedd yn sefyll o gwmpas yr arweinydd.

– Dyna’r ffordd, tu ôl i’r llwyn ddrain! Dyna fo! – sgrechiodd y plant a’r bobl yn y cefn.

– Dyna’r ffordd! Dyna’r ffordd! – gwawdiodd y rhai o gwmpas yr arweinydd, yn dynwaru yn gas.

– A sut y gallem ni, dynion dall, wybod i ble y mae’n ein tywys? Ni all bawb rhoi gorchmynion. Mae’r arweinydd yn gwybod y ffordd orau a mwyaf uniongyrchol. Torrwch y ddraenen i lawr!

Fe wnaethant blymio i mewn i glirio’r ffordd.

– Aw, – criodd rhywun a oedd efo draenen yn sownd yn ei law a rhywun arall a gafodd ei drawo gan ddraenen mwyar duon.

– Brodyr, ni chewch unrhywbeth heb dalu pris. Mae’n rhaid i chi wthio eich hunain er mwyn llwyddo, – atebodd yr aelod dewraf o’r grŵp.

Fe wnaethant dorri trwy’r llwyn wedi ymdrechu’n galed a symud ymlaen.

Ar ôl crwydro ychydig ymhellach, daethant at a bentwr o bren. Cafodd rhain eu taflu i’r ochr hefyd. Yna fe aethant yn eu blaenau.

Ni aethant yn bell iawn ar y diwrnod cyntaf gan fod rhaid iddynt ddod dros nifer o rwystrau tebyg. Ahyn i gyd heb lawer o fwyd gan mai dim ond bara sych ac ychydig o gaws oedd gan rhai tra bo eraill hefo bara yn unig i leddfu eu llwg. Roedd gan rhai dim o gwbl. Yn ffodus roedd yn ystod yr haf felly gallent ddarganfod coeden ffrwythau o dro i dro.

Felly, er mai dim ond pellter bach oedd y tu nôl iddynt ar y diwrnod cyntaf, roeddynt wedi blino’n arw. Ni ymddangosodd unrhyw beryglon mawr na damweiniau chwaith. Yn naturiol, mewn ymrwymiad mor fawr, roedd y pethau canlynol yn ddibwys; draenen yn sownd yn llygaid chwith un dynes, fe wnaeth ei orchuddio a chadach wlyb; criodd plentyn cyn hercian i mewn i foncyff, baglodd hen ddyn dros lwyn mwyar duon a throi ei ffêr, wedi i nionyn y ddaear gael ei rhoi arno, fe wnaeth ddelio a’r poen yn ddewr, ac wrth bwyso ar ei ffon, herciodd ymlaen yn ddewr tu ôl i’r arweinydd (yn sicr, dywedodd nifer y bod yr hen ddyn yn dweud celwydd am ei ffêr, ei bod yn smalio gan ei fod eisiau troi’n ôl).

Yn fuan, Dim ond ychydig ohonynt oedd heb ddraenen yn ei braich neu graith ar ei wyneb. Wnaeth y dynion ddioddef ynarwrol tra bod y benywod yn melltithio’r awr pan wnaethant ymadael , criodd y plant, yn naturiol, gan nad oeddynt yn deall y buasai’r holl waith a phoen yn cael ei gwobrwyo’n hael.

Roedd pawb yn hapus iawn gan ni ddigwyddodd dim bydi’r arweinydd.Mewn gwirionedd, yr oedd wedi ei warchod, ond mwy na hynny, yr oedd yn syml, yn lwcus. Yn y lle gwersylla y noson gyntaf, wnaeth bawb weddio a diolch i Dduw bod siwrne y dydd wedi bod yn lwyddiannus a bod hyd yn oed yr anffawd lleiaf heb ddigwydd i’r arweinydd.Yna fe siaradodd un o’r dynion dewraf. Roedd ei wyneb wedi ei grafu gan ddraenen mwyar duon, ond ni feddyliodd dim am hynny.

– Brodyr, – fe gychwynodd – Yr ydym wedi dod trwy dydd cyntaf ein siwrne yn lwyddiannus, diolch i Dduw. Nid yw’r ffordd yn un hawdd, ond maen rhaid i nibarhau achos rydym yn gwybod y daw y ffordd anodd ymaa hapusrwydd i ni. Boed i’r Arglwydd Dduw warchodein arweinydd rhag niwed er mwyn iddo allu ein tywys yn lwyddiannus.

– Mi wnai golli fy llygaid arall os fydd pethau fel hyn yfory! – dywedodd un dynes yn flin.

– Oww, fy nghoes! – criodd yr hen ddyn, wedi ei argymell gan sylwadau y ddynes.

Parhaodd y plant i swnian a chrio, roedd yn anodd i’r mamau eu distewi er mwyn cael clywed y llefarydd.

– Mi wnei di golli dy lygad arall, mae hynny’n wir – ebychodd yn flin, a bydded i ti ei golli. Nid yw yn anffawd fawr i un dynes golli ei llygaid er mwyn achos mor haeddiannus. Cywilydd arno chi! Ni feddyliech chi fyth am well fywyd i’ch plant? Gadewch i hanner ohonom ni farw yn yr ymdrech hon! Pa wahaniaeth fyddai hynny’n ei wneud? Pe buasem yn cefnu ar ein addewidion oherwydd dy lygaid a choes yr hen ddyn?

– Mae’n dweud celwydd! Mae’r hen ddyn yn dweud celwydd! Dim ond cocsio mae o er mwyn iddo allu troi’n ôl – atseiniodd lleisiau o bob ochr.

– Brodyr, pwy bynnag sydd ddim eisiau mynd ymhellach – dywedodd y llefarydd eto, – gadewch iddo fynd yn ôl yn hytrach na chwyno a rhwystro y gweddill ohonom. Cyn belled a dwi yn y cwestiwn, rydw i am ddilyn yr arweinydd doeth nes bod dim byd ohonai ar ôl.

– Fe wnawn nii gyd ei ddilyn. Fe wnawn ei ddilyn am gydol ein hoes!

Roedd yr arweinydd yn ddistaw.

Roedd pawb yn edrych arno ac yn sibrwd.

– Mae o ar goll yn ei feddyliau!

– Am ddyn doeth!

– Edrychwch ar ei dalcen!

– Wastad yn gwgu!

– O ddifrif!

– Mae’n ddewr! Gellir gweld hynny’n glir.

– Gelli di ddweud hynny eto! Ffensys, drain – mae’n torri trwydden nhw i gyd, mae’n tapio ei ffon yn brudd, yn dweud dim, ac maen rhaid i ni ddyfalu beth sydd yn ei feddwl.

(tudalen nesaf)

Ознаке:, , , , , , , , , , , , ,

About Домановић

https://domanovic.wordpress.com/about/

Оставите одговор

Попуните детаље испод или притисните на иконицу да бисте се пријавили:

WordPress.com лого

Коментаришет користећи свој WordPress.com налог. Одјавите се /  Промени )

Слика на Твитеру

Коментаришет користећи свој Twitter налог. Одјавите се /  Промени )

Фејсбукова фотографија

Коментаришет користећи свој Facebook налог. Одјавите се /  Промени )

Повезивање са %s

%d bloggers like this: