Tag Archive | dall

Arweinydd (3/3)

(tudalen gynt)

Felly, fe basiodd y diwrnod cyntaf, ond fe ddilynodd mwy o ddyddiau tebyg. Ni ddigwyddodd dim byd o bwysicrwydd, dim ond pethau man, syrthiasant i ffôs, yna i geunant, wnaethant frwsio yn erbyn drain mwyar duon, fe wnaethant sefyll ar boteli, torrwyd sawl braich a choes, a rhai trawiadau i’r pen. Ond fe ddioddefasant hyn i gyd. Gadawyd rhai hen ddynion yn farw ar y ffordd.

– Buasant wedi marw hyd yn oed os oeddent wedi aros adref, heblaw am ar y ffordd! Dywedodd y llefarydd, gan argymhell y gweddill i ddal ati. Bu farw hefyd rhai plant ifanc blwydd a dyflwydd oed. Wnaeth y rhieni gwthio i lawr eu dorcalon yn stoicaidd, gan mai dymuniad Duw ydoedd. “ a lleiaf oll y plentyn, lleiaf oll y galar. Ar i Dduw i beidio i rhiant golli plentyn o oed priodi. Os dyma sydd i fod i ddigwydd, maen well iddynt farw yn ifanc. Yna nid yw’r tristwch gymaint. ” – cysurodd y llefarydd drachefn. Lapiodd rhai eu pennau mewn cadachau a rhoi cywasgiad oer ar ei cleisiau. Cariodd erail eu breichiau mewn slingiau. Roedd bob un yn garpiog a chriethiog, ond er hyn i gyd, gwthiant ymlaen yn hapus. Buasai hyn i gyd wedi bod yn haws os nad oeddynt hefyd ar fin llwgu. Ond roedd rhaid iddynt hwy gadw ymlaen.

Un dydd, digwyddodd rhywbeth mwy arwyddocaol.

Roedd yr arweinydd yn cerdded o’u blaenau, wedi ei amgylchynnu gan ddynion mwyaf dewr y grŵp. Roedd dau ohonynt ar goll, a ni bu neb yn gwybod i ble’r aethant. Yr oedd y dorf yn credu eu bod wedi bradychu eu hachos a wedi ffoi. Ar un adeg, dywedodd y llefarydd rhywbeth am fradwriaeth cywilyddus. Dim ond ychydig ohonynt oedd yn credu eu bod wedi marw ar y ffordd, ond nid oeddynt yn barod i ddweud hynny rhag ennyn y gweddill. Roedd gweddill y grŵp mewn llinell tu nôl iddynt. Yn sydyn daeth ceunant creigiog enfawr a dyfn i’r golwg- affwys go iawn. Roedd yr allt mor serth fel ni feiddiodd neb cymeryd cam ymlaen. Arhosodd hyd yn oed y rhai mwyaf dewr ac edrych ar yr arweinydd. Yn gwgu, ar goll yn ei feddyliau a’i ben i lawr. Fe gamodd yn eofn ymlaen, gan guro ei ffon o’i flaen, i’r dde ac i’r chwith, yn ei ffordd ei hun. Dywedodd amryw fod hynny’n gwneud iddo ymdeimlo yn fwy parchus fyth. Ni edrychodd ar neb na dweud dim. Ni newidiodd ei fynegiant, doedd dim golwg o ofn fel y nesaodd at y clogwyn. Trodd hyd yn oed y rhai eofnaf yn wyn fel cynfas, ond ni feiddiodd neb rybuddio’r arweinydd dewr, doeth. Mewn dau gam arall yr oedd ar yr ymyl. Yn llawn dychryn, a’u llygaid yn led agored, roedd pob un yn crynu. Roedd y dynion dewraf ar fîn dal yr arweinydd yn ôl, hyd yn oed os oedd hynny’n torri ei ufuddhad, ac yna fe gymerodd un cam, dau gam, a phlymio i’r ceunant. Roedd pensyfrdandod, wylofain, sgrechian, ac ofn yn cymryd drosodd. Cychwynodd rhaiohonynt ffoi.

– Aroswch frodyr! Beth yw’r brys? Ai dyma sut yr ydych yn cadwch gair? Mae’n rhaid i ni ddilyn y gŵr doeth achos ei fod yn gwybod beth y mae’n ei wneud. Mi fuasai’n wallgo i ddinistrio ei hun. Ymlaen! Ar eiôl! Dyma’r glwyd mwyaf ac efallai’r perygl olaf, y rhwystr olaf. Pwy a wyr? Efallai ar ochr arall y ceunant yma fe wnawn ddarganfod y tir ffrwythlon bendigedig y mae Duw wedi gaddo i ni. Ymlaen! Heb aberth, ni awn ni i unman! Dyma eiriau cyngor y llefarydd cyn cymeryd dau gam ymlaen a diflannu i’r ceunant. Dilynodd y rhai mwyaf dewr ac yna syrthiodd pawb arall hefyd.

Clywir wylofain, griddfan, syrthio a chwyno ar allt serth y dyffryn enfawr. Buasai rhywun yn taeru na fyddai neb yn goroesi, llai fyth heb ei frifo o gwbl, ond mae bywyd yn afaelgar. Roedd yr arweinydd yn eithriadol o lwcus. Fe ddaliodd i lwyni fel y syrthiodd felly nad oedd wedi brifo. Fe wnaeth o fedrutynnu ei hun ato’i hun a dringo allan. Tra bod wylofain, cwyno a griddfan yn atseinio islaw, eisteddai yn stond, yn feddylgar distaw. Roedd rhai ohonynt yn flin ac anafiedig yn ei felltithio ond ni faliodd dim. Ceisiodd y rhai a oedd yn ddigon ffodus i afael mewn llwyn neu goeden ddringo allan yn egniol. Roedd rhaiâ phennau wedi eu cracio a gwaed yn llifo dros eu wynebau. Doedd neb yn ddianaf heblaw am yr arweinydd. Yn sydyn wnaeth bawb syllu’n gas arno a thuchan mewn poen ond ni wnaeth hyd yn oed godi ei ben. Roedd yn hollol ddistaw ac yn eistedd yn feddylgar feldyn doeth go iawn!

Pasiodd yr amser. Roedd nifer y trafeilwyr yn lleihau. Roedd bob dydd yn cymryd ei doll. Gadawodd rhai y grŵp a throi’n nôl.

O’r nifer fawr oedd yno ar y cychwyn, dim ond tua ugain oedd ar ôl. Roedd eu wynebau hyll, blinedig yn dangos ôl anobaith, amheuaeth, blinder a llwgu, ond ni ddywedodd neb air. Roeddynt mor ddistaw a’r arweinydd ac yn dal ymlaen. Roedd hyd yn oed y llefarydd ysbrydolol yn ysgwyd ei ben. Roedd y ffordd wirioneddol yn anodd.

Gostyngodd eu niferoedd yn ddyddiol nes bod dim ond deg ar ôl. Hefo wynebau digalon, wnaethant duchan a chwyno yn lle sgyrsio.

Edrychasant mwy fel efryddion na dynion. Roedd rhai ar faglau, roedd breichiau rhai mewn slingiau wedi eu clymu o amgylch eugyddfau. Roedd llawer o gadachau a chywasgiadau ar eu dwylo. Hyd yn oed os oeddynt eisio aberthu mwy, ni allent, gan nad oedd prin lle ar ôl ar eu cyrff i ddolurau newydd.

Roedd hyd yn oed y cryfaf a’r dewraf wedi colli ffydd a gobaith and fe wnaethant frwydro ymhellach, hynny yw, wnaethant hercian ymlaen rhywsut efo ymdrech aruthrol, yn cwyno ac mewn poen anioddefol. Beth arall gallasant wneud os ni allent droi nôl? Cymaint o aberthion ac yna i gefnu ar eu siwrnai?

Fe gychwynodd nosi. Yn hercian ymlaen ar faglau, gwelsant yn sydyn nad oedd yr arweinydd o’u blaenau bellach. Un cam arall awnaeth bob un syrthio i geunant arall.

– O, fy nghoes! O, fy llaw! ! Atseiniodd y griddfan a’r wylo. Melltithiodd un llanc gwan yr arweinydd dilys ond yna distewodd.

Pan gododd yr haul drannoeth, dyna’r lle’r oedd yr arweinydd yn eistedd yr un fath a’r diwrnod cyntaf un pan wnaethant ei ddewis. Nid oedd ei wedd wedi newid o gwbl.

Dringodd y llefarydd o’r ceunant, wedi ei ddilyn gan ddau arall. Yn afluniaidd a gwaedlyd, fe wnaethant droii weld faint oedd ar ôl, ond dim ond y nhw oedd yna. Llenwodd eu calonnau ag ofn angheuol ac anobeithrwydd. Doedden nhw ddim yn gyfarwydd a’r ardal creigiog, bryniog, doedd dim llwybrau yn unman. Dau ddiwrnod ynghynt fe welsant ffordd ond fe wnaethant ei adael. Dyna’r ffordd yr aeth yr arweinydd.

Meddyliant am yr holl ffrindiaua pherthnasau a bu farw ar y siwrne bendigedig. Daeth tristwch drosto nhw , poen gwaeth na’r poen yn ei cyrff a’u haelodau cloff. Roeddynt wedi gweld eu hunan ddinstr hefo’u llygaid eu hunain.

Aeth y llefarydd at yr arweinydd a dechrau siarad efo llais blinedig, crynedig , llawn poen, gwangalonni a chwerwder.

– I ble’r ydym yn mynd nawr?

Roedd yr arweinydd yn ddistaw.

– I ble’r ydych yn mynd a ni ac i ble’r ydych wedi ein tywys? Rydym wedi rhoi ein teuluoedd a’n hunain yn eich dwylo ac rydym wedi eich dilyn chi, a gadael ein cartrefi a beddau ein cyndadau yn y gobaith o allu safio ein hunain rhag ddinistr yn y tir anffrwythlon yna. Ond rydych chiwedi ein dinistrio mewn ffordd waeth. Roedd dau gant o deuluoedd tu ôl i chi a nawr edrychwch faint sydd yma.

– A ydych yn dweud nad yw pawb yma? Mwmiodd yr arweinydd heb godi ei ben.

– Sut allech chi ofyn y fath gwestiwn? Codwch eich pen ac edrychwch! Cyfrwch faint ohonom sydd ar ôl ar y siwrne anffodus yma. Edrychwch ar ein cyflwr ni! Mi fuasai’n well pe bawn ni wedi marw na bod yn gloff fel hyn.

– Ni allaf edrych arnoch chi.

– Pam?

– Rydw in ddall.

Distawrwydd hollol.

– Wnaethoch chi golli eich golwg yn ystod y daith?

– Cefais fy ngeni yn ddall.

Wnaeth y tri hongian eu pennau mewn anobaith.

Chwythodd gwynt yr hydref anfad drwy’r mynyddoedd a chwythodd dail crin i lawr. Hongiodd niwl dros y bryniau, a thrwy’r aer oer, niwlog, dychlamodd adain cigfrain. Atseiniodd eu sŵn heb ei hepgor. Roedd yr haul wedi eiorchuddio gan gymylau a oedd yn rowlio a brysio yn eu blaenau ymhellach ac ymhellach i ffwrdd.

Edrychodd y tri ar ei gilydd mewn arswyd llwyr .

– Lle fedran ni fynd nawr? – mwmiodd un yn ddifrifol.

– Dwn i ddim, wir!

 

Yn Belgrade, 1901
Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”, 2020