Tag Archive | cludwr

Ymresymiad ychen Serbiaidd cyffredin

Mae llawer o ryfeddodau yn digwydd yn y byd yma, ac y mae ein gwlad, fel y dywedir nifer o bobl, yn gorlifo hefo rhyfeddodau i’r fath raddau fel nad ydydnt yn rhyfeddodau, bellach. Mae yma bobl mewn swyddi uchel sydd ddim yn meddwl o gwbl, a fel iawndal, neu efallai am resymau eraill, cychwynodd ychen gwerinwr cyffredin, nad oedd yn wahanol o gwbl i unrhyw ychen Serbiaidd arall, feddwl. Duw a wyr be ddigwyddodd i wneud i’r anifail dyfeisgar feiddio cychwyn y fath ymgais mentrus, yn enwedig gan ei bod wedi’i brofi yn Serbia bod yr alwedigaeth anffodus yma yn dod a dim ond anghymwynas. Gadewch i ni ddweud nad oedd yr hen greadur yma, yn ei ddiniweidrwydd, yn ymwybodol nad oedd yr ymgais hyn yn broffidiol yn ei famwlad, felly ni fyddem yn ei briodoli hefo unrhyw ddewrder dinesig arbenning. Ond mae dal i fod yn ddirgelwch paham bu ychen yn meddwl drosto’i hun, er nad yw yn gallu bod yn bleidleisiwr, neu yn gynghorydd, neu yn henadur pentrefol, ac ni chaiff ei ethol fel dirprwy mewn unrhyw gynulliad buchol, neu hyd yn oed (os ydyw wedi cyrraedd oed penodol) yn seneddwr. Ac os oedd y peth druan wedi breuddwydio o gwbl am fod yn weinidog gwladol mewn unrhyw wlad buchol, mi ddyliai fod wedi gwybod y buasai’n well ganddo i feddwl cyn lleied a phosib, fel aelodau seneddol ardderchog mewn gwledydd hapusach, ond nid yw ein gwlad mor lwcus yn hyn o beth chwaith. Yn y pen draw, pam y ddyliem ni boeni am pam bo ychen yn Serbia wedi ymgeisio mewn rhywbeth a gafodd ei anghofio gan drigolion y wlad? Hefyd, efallai bod hyn wedi digwydd oherwydd rhyw reddf naturiol ganddo.

Felly, pa fath o ychen yw hyn? Ychen arferol sydd, fel mae sŵoleg wedi ein dysgu, hefo pen, corff, ac aelodau, fel pob ychen arall; mae’n tynnu trol, bwyta gwair, llyfu halen, cnoi cil ac yn brefu. Ei enw yw Sivonja, yr ychen lwyd.

Dyma sut y cychwynodd feddwl. Un diwrnod gafodd ei ieuo gan ei feistr hefo’i ffrind, Galonja, a llwytho’r trol efo ffensys wedi’u dwyn, a lawr a nhw i’r dref i’w gwerthu. Bron yn syth bin ar ôl cyrraedd y dref, fe werthodd y ffensys a bu’n dadieuo Sivonja a’i ffrind, clymu’r cadwyn i’r iau ac yn taflu ysgub o chwyn gwniadur o’u blaenau cyn mynd i dafarn fechan i adfywio hefo ychydig o ddiod. Roedd gwŷl yn mynd ymlaen yn y dref, felly roedd dynion, merched a phlant yn mynd heibio ar bob ochr. Ni edrychodd Galonja, a oedd yn arfer cael ei ystyried gan y gwartheg erail fel twp, ar unrhywbeth. Yn hytrach, fe gychwynodd lowcio ei ginio o ddifri, bwyta llond bol, brefu ychdig mewn pleser pur, ac yna gorwedd ilawr, i bendwmpian yn felys a chnoi cil. Doedd yr holl bobl yn pasio heibio yn golygu dim iddo. Roedd yn pendwmpian ac yn cnoi cil yn heddychlon (piti nad oedd yn berson, hefo’r holl rhagdueddiadau yma am yrfa aruchel). Ond ni all Sivonja gymryd dim un cegiad. Roedd ei lygaid breuddwydiol a’r wedd drist ar ei wyneb yn dangos ar yr ymddangosiad cyntaf ei fod yn feddyliwr, ac yn enaid pêr ac argraffadwy. Roedd pobl, Serbiaid, yn mynd heibio iddo, llawn balchder am eu gorffennol, eu henw, eu cenedl. Roedd y balchder yma yn ymddangos yn eu hymarweddiad llym a’u camau. Gwyliodd Sivonja hyn i gyd, yn sydyn, roedd ei enaid wedi llenwi gan dristwch a phoen am yr anghyfiawnder aruthrol, ac ni all gwffio yn erbyn y fath emosiwn cryf, sydyn a phwerus; fe frefodd yn llwm, yn boenus, dagrau yn cronni yn ei lygaid. Ac ymysg y poen aruthrol, dechreuodd Sivonja feddwl:

– Beth sy’n creu’r fath balchder yn fy meistr a’i gydwladwyr, y Serbiaid? Pam y maent yn dal eu pennau mor uchel ac yn edrych ar fy mhobl hefo balchder ffroenuchel a dirmyg? Maent yn falch o’u mamwlad, falch fod tynged drugarog wedi gadael iddynt gael eu geni yma yn Serbia. Bu fy mam fy hun yn rhoi genedigaeth i mi yma yn Serbia hefyd, ond nid yn unig i mi y mae’n wlad brodorol, ond i fy nhâd hefyd, ac fe wnaeth fy nghyndeidiau ddod i’r tiroedd yma o’r hen famwlad Slafaidd, fel eu cyndeidiau nhw. Ac eto, does yr un ychen wedi teimlo balchder drosto, fe deimlwn ni’n falch o’n gallu i dynnu llwyth trymach i fyny’r allt; hyd heddiw, does yr un ychen wedi dweud wrth ychen Almaeneg: “Beth wyt ti eisiau gennyf, ychen Serbiaidd ydw i, Serbia yw fy mamwlad parchus, mae fy holl gyndeidiau wedi eu lloia yma, ac yma, yn y wlad hon mae beddau fy hynafiaid”. Duw â wyr, ni fyddem fyth yn ymfalchio yn hynny, nid yw byth wedi croesi ein meddyliau, ac maent hwy hyd yn oed yn ymfalchio mewn hynny. Pobl od!

Wedi’i golli yn y meddyliau yma, fe ysgwydodd yr ychen ei ben yn drist, y gloch am ei wddw yn canu a’i iau yn clecian. Agorodd Galonja ei lygaid, edrychodd ar ei ffrind a brefodd:

– Dyna ti eto hefo dy giamocs! Bwyta, twpsyn, tyfa dipyn o frasder, edrycha ar dy asennau yn sticio allan i gyd; pe buasai’n beth da i feddwl, ni fuasai pobl wedi ei adael i ni’r ych? Ni fuasem byth wedi bod mor lwcus!

Edrychodd Sivonja ar ei gymfrawd â thrueni, trodd ei ben oddi wrtho, a dychwelyd yn ôl i fyd ei feddyliau.

– Maent yn ymfalchio yn eu gorffennol gogoneddus. Mae ganddynt eu Cae Kosovo, Brwydr Kosovo. Beth felly? Mae fy nghyndeidiau wedi tynnu certiau hefo bwyd ac arfau, hyn yn oed bryd hynny. Heblaw amdanom ni, mi fuasai pobl wedi gorfod gwneud hynny eu hunain. Yna, mae’r gwrthryfel yn erbyn y Twrciaid. Ymgais crand a bonheddig, ond pwy oedd yna ar y pryd? Ai y twpsod ffroenuchel, yn trosythi llawn balchder o fy mlaen fel pe buasant yn haeddu’r teilyngdod, a ddechreuodd y gwrthfryfel? Gwele, cymera fy meistr fel esiampl. Mae o mor falch ac yn brolio am y gwrthryfel, yn enwedig gan bu farw ei hen daid yn y rhyfel am ryddhad fel arwr go iawn. Ai hyn yw teilyngdod fy meistr? Roedd gan ei hen daid yr hawl i ymfalchio, ond nid yfo, bu farw ei hen daid er mwyn i fy meistr, a’i ddisgynyddion allu bod yn rhydd. Felly, y mae ef yn rhydd, ond sut y mae’n defnyddio ei ryddid? Mae’n dwyn ffensys pobl eraill, yn eistedd ar ei drol, ac mae’n rhaid i mi dynnu fo a’i ffensys tra’i bod yn cysgu wrth yr awenau. Nawr y mae wedi gwerthu ei ffensys, mae’n yfed gwirodydd, yn gwneud dim ac yn ymfalchio yn ei orffennol gogoneddus. A faint o fy hynafiaid gafodd eu lladd yn y gwrthryfel i fwydo’r brwydrwyr? Onid oedd fy hynafiaid ar y pryd yn tynnu’r arfau, canonau, bwyd a bwledi? Ond dydym ni ddim yn ymfalchio yn eu haeddiannau achos dydym ni ddim wedi newid; rydym dal i wneud ein dyletswydd heddiw, yn union fel y gwnaeth ein cyndeidiau, yn amyneddgar ac yn gydwybodol.

Maent yn falch am ddioddefaint eu cyndeidiau ac o bum can mlynedd o gaethwasiaeth. Mae fy nhras wedi dioddef trwy gydol ein bodolaeth, ac rydym dal i ddioddef, a mewn caethiwed, ac eto, nid ydym yn sgrechian amadano dros bob man. Maent yn dweud y gwnaeth y Twrciaid eu arteithio, lladd a’u trywanu;wel cafodd fy ngyndeidiau eu lladd gan Serbiaid a Thwrciaid yr un fath, a’u rhostio, a’u arteithio mewn bob math o ffyrdd.

Maent yn ymfalchio yn eu crefydd ac eto yn credu mewn dim byd. Beth sy’n bod arna i a’m teulu i wneud i Gristnogion methu ein derbyn? Mae eu crefydd yn dweud wrthynt “Peidiwch a dwyn” a dyna lle mae fy meistr yn dwyn ac yn yfed efo’r pres a gafodd am ddwyn. Mae eu crefydd yn eu hybu i garu eu cymdogion, ac eto dim ond niweidio ei gilydd y maent yn ei wneud. Iddynt hwy, y dyn gorau, esiampl o rinwedd, yw’r un sydd yn gwneud dim niwed, ac wrth gwrs, nid oes neb yn ystyried gofyn i unrhyw un wneud rhywbeth da hefyd, heblaw am beidio gwneud niwed. Dyna pa mor isel y maent wedi disgyn fel bod eu hesiamplau o rinweddau da yn ddim mwy na gwrthrych dibwrpas sy’n peri dim niwed.

Ochneidiodd yr ychen yn ddwfn, cododd ei ochenaid y llwch o’r ffordd.

Felly, parhaodd yr ychen efo’i meddyliau trist, megis, onid ydw i a fy nheulu yn well yn hyn i gyd na bob un ohonyn nhw? Dwi byth wedi llofruddio neb, dwi byth wedi difenwi neb, heb ddwyn dim byd, heb beri i ddyn dieuog golli ei swydd o wasanaeth cyhoeddus, heb wneud colled i drysorfa y stâd, heb ddatgan methdaliad ffug, dwi erioed wedi cadwyno nag arestio pobl dieuog, dwi byth wedi athrodi fy ffrindiau, dwi heb fyth mynd yn erbyn fy egwyddorion fel ychen, dwi heb wneud tystoliaethau ffug, bues i erioed yn weinidog gwladol a heb wneud niwed i’r wlad; ac nid yn unig heb wneud niwed, dwi hyd yn oed yn gwneud lles i’r rhai sydd yn fy niweidio. Cefais fy ngeni gan fy mam ac yn syth bin, cipwyd llefrith fy mam gennyf gan ddynion drwg. O leiaf mae Duw wedi creu gwair i ni yr ychen, ac nid iddynion, ond maent yn ein amddifadu o hynny hefyd. Ag eto, heblaw yr holl guro, rydym ni dal i dynnu certiau’r dynion, aradr eu caeau a bwydo bara iddynt. Ond nid yw yr un person yn canu canmoliaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud dros y famwlad.

– Neu cymerwch ymprydio, er enghraifft; wel, i ddynion mae crefydd yn eu gorchmynu i ymprydio ar bob diwrnod gwŷl, ond nid ydynt yn fodlon i ddioddef yr ychydig bach yma o ymprydio, tra fy mod innau a’m teulu yn ymprydio drwy gydol ein bywydau, ers pan y cawsant ein diddyfnu o frest ein mam.

Gostyngodd yr ychen ei ben fel pe bai yn poeni, yna fe’i gododd drachefn, gan ffroeni’n flin, roedd yn edrych fel pe bai rhywbeth pwysig yn dod yn ôl ato, yn ei dormentio; yn sydyn, fe frefodd yn llon.

– O, nawr rwy’n deall, mae’n rhaid iddo fod fel hyn- ac fe ddaliodd ati i feddwl- dyna beth sydd; maent yn falch am eu rhyddid a’u hawliau sifil. Mae’n rhaid i mi ddechrau meddwl am y peth o ddifri.

Mi feddyliodd a meddyliodd ond ni allai ddeall.

– Beth yw’r hawliau sydd ganddynt? Os yw’r heddlu yn eu gorchmynnu i bleidleisio, maent yn pleidleisio, felly buasem ni’n gallu brefu’n uchel “ooooo blaaaaaaiiiid! ”. Os nad ydynt yn cael eu gorfodi iwneud, ni feiddiant pleidleisio, neu hyd yn oed dablo mewn gwleidyddiaeth, yn union fel ni. Maent hefyd yn dioddef cosfa yn y carchar, hyd yn oed os ydynt yn gwbl ddieuog. O leiaf rydym ni’n brefu ac yn chwifio ein cynffonnau, nid oes ganddynt hyd yn oed y dewrder dinesig bach yna.

Y foment honno, daeth ei feistr o’r dafarn. Wedi meddwi, yn roncian, ei lygaid yn aneglur, yn mwmian rhyw eiriau annealladwy, fe gerddodd ling di long at y trol.

– Gwelwch fel y mae’r disgynydd balch yma yn defnyddio’r rhyddid a gafodd ei ennill hefo gwaed ei gyndeidiau? Iawn, mae fy meistr yn feddw ac yn leidr, ond sut y mae pobl eraill yn defnyddio’r rhyddid yma? Er mwyn diogi ac ymfalchio yn y gorffennol a theilyngdod eu hynafiaid, lle maent wedi cyfrannu yr un faint iddo ag yr rwyf innau. A ni’r ychod, rydym wedi parhau i fod yn weithwyr mor ddiwyd a defnyddiol, yn union fel bu ein hynafiaid. Rydym ni’n ychen ond mi allem ymfalchio yn ein gwaith caled a’n rhinweddau heddiw.

Ochneidiodd yr ychen yn ddwfn a pharatoi ei wddf am yr iau.

 

Yn Belgrade, 1902
Cyfieithwyd gan Lee Green ar gyfer Prosiect “Radoje Domanović”, 2020